Yr her

Yn y gorffennol roedd y Gwasanaeth yn wynebu problemau darparu cysylltiadau cyflym a chost effeithiol ar gyfer y gorsafoedd gwledig. Bydd y gwasanaethau tân ac achub yn cynnal hyfforddiant gwella sgiliau yn wythnosol sydd angen cysylltiadau cyfathrebu da. Wrth gynnal y nosweithiau ymarfer yn ystod cyfnodau brig gwasanaethau band eang, roedd y cysylltiadau’n araf ac anghyson.

Roedd y Gwasanaeth hefyd angen rhwydwaith cyflym er sicrhau na fyddai unrhyw oedi wrth hysbysu’r diffoddwyr tân o achosion brys, oherwydd byddai rhwydwaith dibynadwy yn cael effaith uniongyrchol ar ymdrechion i achub bywydau.

Yn ogystal roedd y Gwasanaeth am gael dyfeisiadau data symudol i gymryd lle’r hen fapiau papur a manylion risgiau a gadwyd ar bob cerbyd. Ac er diweddaru’r wybodaeth yn rheolaidd, roedd angen dosbarthu’r data i dros 100 injan dân ar draws y rhwdywaith. Felly, roedd llwyddiant y project yn dibynnu ar gael rhwydwaith cyflym a dibynadwy.

Yr ateb

Darparodd PSBA gymysgedd o nodau er mwyn diwallu anghenion y Gwasanaeth. Erbyn hyn mae’n gallu anfon a derbyn data mor gyflym, ac o ganlyniad mae wedi anghofio problemau cynnal nosweithiau hyfforddiant y gorffennol. Mae pob gorsaf yn elwa o gysylltiadau cyflymach a mwy dibynadwy.

Yn eu tro, rhyddhawyd y staff technoleg gwybodaeth o waith parhaus i daclo namau WAN, gan fod PSBA yn darparu gwasanaeth cynhwysfawr. Os bydd safle’n colli cysylltiadau, bydd yn gweithio i’w hadfer o fewn oriau, nid dyddiau, gan isafu’r effaith ar amserau ymateb y diffoddwyr tân. Ar ben hynny, pan fydd galwad yn dŵad i mewn a’r ystafell reoli’n galw cerbydau tân allan, bydd pawb yn hyderus bydd rhwydwaith PSBA yn agored ac yn gallu trosglwyddo negeseuon brys heb oedi.

Trosglwyddir data digidol i ddyfeisiadau data symudol, gan ddarparu’r wybodaeth ymarferol ddiweddaraf er helpu diffoddwyr tan i daclo argyfwng.

Er mwyn helpu gweithwyr y Gwasanaeth i gynnal cysylltiadau cyfathrebu wrth weithio ar safleoedd sector cyhoeddus eraill, cytunodd Steve i fod yn rhan o waith profi cysyniad gwasanaeth crwydro PSBA.

Erbyn hyn mae’r Gwasanaeth yn cydweithredu â chyrff sector cyhoeddus eraill ar draws y gogledd er mwyn sicrhau bydd ei weithwyr bob amser yn gallu cysylltu â’r rhwydwaith cartref. O ganlyniad, mae’r gorsafoedd tân wedi datblygu fel bothau prysur a phwyntiau cyswllt hanfodol ar gyfer gweithwyr sector cyhoeddus wrth deithio o gwmpas.

Mae’r Gwasanaeth hefyd yn rhannu safleoedd gyda chyrff sector cyhoeddus eraill gyda chymorth gwasanaeth aml safle MOSS PSBA. Rŵan mae Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru ac Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru yn rhannu 16 adeilad, yn cynnwys Canolfan Adnoddau Gwasanaethau Ambiwlans & Tân newydd Wrecsam. PSBA sy’n darparu’r nodau gwasanaeth cyflym a MOSS yn hwyluso rhannu’r cysylltiad rhwng y ddau wasanaeth. Yn ogystal, mae’r Gwasanaeth Tân yn rhannu gwasanaeth ffôn y Gwasanaeth Ambiwlans gyda chymorth MOSS.

Yn ddiweddar darparwyd band eang uwchgyflym yn y rhan helaeth o ardaloedd y gorsafoedd tân ac mae’r Gwasanaeth Tân wedi dechrau project gyda PSBA i osod nodau FTTC (ffeibr i’r cabinet) i gymryd lle’r hen nodau SDSL dros y misoedd nesaf er mwyn cynyddu ystod eu gwasanaethau a gostwng costau.

Mae PSBA yn trosglwyddo data yn gyflym a dibynadwy am bris rhesymol, gyda chymorth tîm o arbenigwyr sy’n gallu taclo problemau ar ein rhan.

Sut helpodd

Y canlyniad

CYSYLLTU

Os oes diddordeb gennych mewn ymuno â PSBA neu am fanylion pellach, anfonwch neges at PSBA.new.connection.enquiries.bt.com a bydd aelod o’r tîm yn cysylltu â chi.