Yr her
Erbyn hyn mae cael gwasanaeth band eang dibynadwy yn hanfodol i athrawon sydd am wneud y gorau o adnoddau arlein. Nid oedd cysylltiad rhyngwyd blaenorol yr ysgol yn ddigonol wrth lwytho data ar 0.5Mbps a’r cyflymder hyd yn oed yn arafach wrth anfon data. Roedd Fay a’i thîm yn gwastraffu llawer o amser yn aros i’r porwr weithredu, gan effeithio amserau dysgu. Nid oedd yr athrawon yn gallu cyflawni tasgau sylfaenol fel anfon negeseuon ebost gydag atodiad a’r plant yn methu gweithio ar brojectau technoleg gwybodaeth a chyfathrebu.
Yr ateb
Darparodd PSBA ateb FTTP. Yn awr mae’r ysgol yn mwynhau cyflymder llwytho data hyd at 80Mbps, 150 gwaith yn gyflymach nag yn y gorffennol. O ganlyniad mae’r plant yn gallu cael profiadau dysgu arlein cyfoethog, gyda mynediad i adnoddau arlein yn cefnogi datblygiad sgiliau llythrennedd digidol. Yn ogystal, mae Borderbrook yn awr yn gallu defnyddio Hwb Llywodraeth Cymru, sef casgliad o adnoddau addysg arlein. Erbyn hyn mae’r athrawon a disgyblion yn creu ac yn rhannu adnoddau eu hunain.
Mae gwella’r gwasanaeth band eang wedi symbylu’r ysgol i ddiweddaru ei dechnoleg. Erbyn hyn mae’r plant yn gallu defnyddio dyfeisiadau tablet a theledu sgrin gyffwrdd, gan ychwanegu at y dyfeisiadau i gysylltu ag adnoddau arlein. A gyda’r gwasanaeth newydd nid ydynt wedi wynebu unrhyw oedi wrth ddefnyddio amryw ddyfeisiadau i fynd arlein.
Mae’r cynnydd mewn arfau dysgu arlein, cynnwys ar y we (fideo ac ati), gwerslyfrau digidol rhyngweithiol, e-lyfrau ac asesiadau arlein yn golygu bod Borderbrook yn barod am y dyfodol.