Yr her

Wrth ddefnyddio’r gweinydd dirprwyol blaenorol, nid oedd SRS yn gallu rheoli pori ar y we mewn amser real. Bryd hynny roedd rhaid i’r staff/gweithwyr gynhyrchu adroddiadau a dadansoddi data er mwyn nodi achosion o bwys.

Roedd blocio a dadflocio gwefannau’n broses hir a chymhleth oedd yn rhwystredig i’r cyrff defnyddwyr.

Ysgol Gynradd St Julian’s, Casnewydd, yw un o’r cyrff mae SRS yn cefnogi. Yn y gorffennol roedd yr ysgol yn rhannu cysylltiad rhyngrwyd a gwasanaethau hidlo o fewn strwythur corfforaethol. Roedd yn rhannu cysylltiad rhyngrwyd gyda defnyddwyr corfforaethol a dros 40 ysgol a llyfrgell, ac yn amau bod rhannu’r cysylltiad ac adnoddau diogelwch yn amharu ar berfformiad.

Ffurfweddwyd y gwasanaeth hidlo ar gyfer defnydd yr ysgol ond gosodwyd y rheolau muriau gwarchod ar gyfer lefelau diogelwch corfforaethol, oedd yn cael effaith negyddol ar waith dysgu. Ar ben hynny nid oedd cysylltiadau rhyngrwyd o fewn yr ysgol yn ddibynadwy a chyson, gan weithio un dydd ond y diwrnod nesaf yn methu dilyn yr un linciau. Roedd yn rhwystredig iawn i athrawon gyda dosbarthiadau llawn. O ganlyniad nid oedd llawer o hyder mewn defnyddio technoleg at ddibenion dysgu.

Yr ateb

Erbyn hyn mae SRS yn gallu ffurfweddu rhybuddion, gan edrych ar adroddiadau pori’r we mewn amser real a chymryd camau brys i daclo sefyllfa pan fydd angen. Yn ogystal mae’n gallu hidlo ac adrodd ar unrhyw gymalau chwilio o fewn Google ac YouTube. Mae’r nodweddion diogelwch hyn yn hanfodol o fewn amgylchedd addysg.

Mae blocio a dadflocio gwefannau yn broses syml, wrth ddefnyddio rhestrau caniatáu a blocio, gydag opsiwn “cyflym” i ganiatáu neu flocio gwefannau, sy’n arbed amser i SRS. Ac ar ben hynny mae nifer fach o athrawon yr ysgol yn gallu caniatáu neu flocio mynediad eu hunain, gan roi mwy o reolaeth dros yr amgylchedd dysgu.

Sut helpodd

Y broses adrodd yw’r gorau rydym wedi gweld o
gymharu ag atebion dirprwyol eraill. Mae monitro
amser real yn gweithio’n llyfn, gan hidlo enwau
defnyddwyr, grwpiau IP a chategorïau.

Steve

Mae gwasanaeth newydd PSBA yn sicrhau ein
bod yn cael ystod benodedig ar gyfer yr ysgol
a mynediad cyson o safleoedd drwy wasanaeth
hidlo Smoothwall yr ysgolion. O ganlyniad mae’r
athrawon a myfyrwyr yn fwy hyderus byddant yn
gallu cael mynediad pan fydd angen.

Cath Barnard, rheolwraig gwasanaeth SRS ar gyfer ysgolion
Casnewydd

Sy’n golygu

CYSYLLTU

Os oes diddordeb gennych mewn ymuno â PSBA neu am fanylion pellach, anfonwch neges at PSBA.new.connection.enquiries.bt.com a bydd aelod o’r tîm yn cysylltu â chi.