PSBA yw Rhwydwaith
#1
Cymru
Cynnal
24/7
gwasanaeth monitro a rheoli
Cysylltu dros
0
corff

Gallech arbed arian sylweddol wrth ymuno â PSBA, a chydweithredu a rhannu gwybodaeth yn hawdd, cyflym a diogel gyda chyrff PSBA.

Mae PSBA yn chwarae rôl allweddol wrth helpu Cymru i gael cysylltiadau digidol i’w cymharu â’r gorau yn y byd. Mae’n gweithio i drawsnewid y rhwydwaith, arbed costau, hwyluso cydweithredu ar draws y sector cyhoeddus a chefnogi darparu gwasanaethau mwy effeithlon ar gyfer dinasyddion.

YMUNO Â PSBA

Llenwch y ffurflen isod er mwyn gweld os yw eich corff yn gymwys i ymuno â PSBA

PSBA yn trosglwyddo data yn gyflym a diogel am bris rhesymol, gyda chymorth tîm o arbenigwyr sy’n taclo unrhyw broblemau.

STEVE MORRIS
RHEOLWR TECHNEGOL, GWASANAETH TÂN AC ACHUB GOGLEDD CYMRU

Enghreifftiau

Yr her

Yn y gorffennol roedd y Gwasanaeth yn wynebu problemau darparu cysylltiadau cyflym a chost effeithiol ar gyfer y gorsafoedd gwledig. Bydd y gwasanaethau tân ac achub yn cynnal hyfforddiant gwella sgiliau yn wythnosol sydd angen cysylltiadau cyfathrebu da. Wrth gynnal y nosweithiau ymarfer yn ystod cyfnodau brig gwasanaethau band eang, roedd y
cysylltiadau’n araf ac anghyson.

Yr ateb

Darparodd PSBA gymysgedd o nodau er mwyn diwallu anghenion y Gwasanaeth. Erbyn hyn mae’n gallu anfon a derbyn data mor gyflym, ac o ganlyniad mae wedi anghofio problemau cynnal nosweithiau hyfforddiant y gorffennol. Mae pob gorsaf yn elwa o gysylltiadau cyflymach a mwy dibynadwy.

Enghreifftiau

Yr her

Roedd gweithwyr iechyd a gwasanaethau cymdeithasol yn wynebu problemau wrth geisio cydweithio’n effeithiol, gyda dim modd dibynnu ar gysylltiadau rhyngrwyd a wifi. Gan fod cydweithredu’n allweddol, roedd angen newid dulliau cyfathrebu er hwyluso cysylltiadau data cyflym a diogel mewn pob un o adeiladau’r Cyngor.

Yr ateb

Mae gwasanaeth crwydro PSBA wedi gwella cysylltiadau gwaith traws ffiniau rhwng yr awdurdod iechyd a’r cyngor. Erbyn hyn mae’r gweithwyr yn gallu menwgofnodi ar eu rhwydweithiau perthnasol yn syth o unrhyw swyddfa ar Wyr Ynys.

CYSYLLTU

Os oes diddordeb gennych mewn ymuno â PSBA neu am fanylion pellach, anfonwch neges at PSBA.new.connection.enquiries.bt.com a bydd aelod o’r tîm yn cysylltu â chi.