GWASANAETHAU A BUDDION
Mae PSBA yn darparu gwasanaethau ac atebion rhwydwaith diogel, cyflym a dibynadwy ar gyfer nifer cynyddol o gyrff sector cyhoeddus.
Dyfeisiwyd ein gwasanaethau cost effeithiol i helpu cyrff cyhoeddus wneud eu gwaith wrth hwyluso mynediad i adnoddau a hyrwyddo cydweithredu.
Ein dogfen taflen gwasanaethau yn rhestru mwy o’r buddion gwasanaethau band eang ar gael i’r rhai sy’n gweithio gyda PSBA.
Bydd ein gwasanaethau diogelwch yn helpu i daclo heriau ym meysydd cydymffurfio, aeddfedrwydd digidol, asesu a rheoli risgiau, a diogelu gwybodaeth ac asedau.
- Rhwydwaith ardal eang rheoledig gwasanaethau (WAN) yn defnyddio unrhyw gyfuniad o MPLS, SD-WAN, ethernet, rhyngrwyd, data symudol neu fwy gan amrediad o gwmnïau cyfathrebu
- Gwasanaethau crwydro diogel er cysylltu pobl sy’n teithio o gwmpas y wlad
- Gwasanaethau WebSafe sy’n penderfynu os am atal cynnwys ai peidio
- Gwasanaethau rhyngrwyd uniongyrchol gyda chysylltedd rhwydwaith cynhwysedd uchel
- Muriau gwarchod a gwasanaethau diogelwch eraill
- Cyngor a chymorth strategol er cefnogi’r rhwydwaith a phrojectau cysylltiedig
- Adnoddau ‘peering’ yn hwyluso cysylltu rhwydweithiau rhyngrwyd a throsglwyddo traffig
AWDURDODAU LLEOL
Erbyn hyn mae PSBA yn darparu cysylltiadau rhwydwaith ar gyfer 22 awdurdod lleol Cymru, gyda’r staff yn gweithio mewn gwahanol feysydd ac ar draws nifer o safleoedd y cynghorau. Mae gwasanaeth crwydro syml ac effeithiol PSBA yn galluogi staff cynghorau i gadw mewn cysylltiad wrth deithio o gwmpas, gyda thimau o wahanol gynghorau’n gweithio’n effeithiol diolch i’r cysylltiadau rhwydwaith diogel, cyflym a hwylus mewn pob adeilad cyngor.
Dyma sut mae staff Cyngor Sir Ynys Môn yn manteisio ar fuddion Crwydro PSBA.
GWASANAETHAU BRYS
PSBA sy’n darparu’r dechnoleg er helpu heddluoedd, gwasanaethau ambiwlans a gwasanaethau tân ac achub i ymateb yn gyflymach i argyfyngau, gwella cynhyrchiant a chadw cymunedau’n saff. Wrth gynnig gwasanaeth cynhwysfawr gallwn daclo problemau ar safleoedd mewn oriau, nid dyddiau, er isafu’r effaith ar amserau ymateb. Bydd Crwydro PSBA yn cysylltu staff sy’n teithio, gyda’r ystod eang yn hwyluso rheoli’r rhwydweithiau yn effeithlon hyd yn oed adeg cyfnodau prysur.
Pam ddywedodd Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru wrthym ei fod yn wynebu problemau darparu cysylltiadau ar gyfer gorsafoedd gwledig, aethom ati i drefnu cysylltiadau cyflym, cost effeithiol a dibynadwy sydd erbyn hyn yn ddigon cyflym i ddiwallu anghenion hyd yn oed pan fydd cynnydd mawr yn nifer y galwadau i’r gorsafoedd hynny.
ADDYSG
Mae PSBA yn cysylltu dros 1,500 ysgol, 14 sefydliad addysg bellach a 9 prifysgol yng Nghymru, ynghyd â chyrff eraill sy’n gysylltiedig â’r cymunedau addysg ac ymchwil. Bydd defnydd eang o arfau dysgu arlein, cynnwys gwerthfawr ar y we, asesiadau arlein a gwasanaethau cwmwl o fewn y sectorau addysg cynradd, uwchradd & trydyddol yn mynnu rhwydweithiau cyflym, diogel a dibynadwy er cefnogi agendau addysg ac ymchwil y dyfodol.
Rydym wedi ymrwymo i ddarparu atebion fydd yn diwallu anghenion y cymunedau hyn yn y dyfodol wrth gynnal cysylltiadau ystod eang ar gyfer ysgolion, colegau a phrifysgolion er cefnogi arloesi, ymchwil a dysgu. Bydd PSBA yn darparu mynediad i adnoddau dysgu o safon ac yn taclo rhwystrau rhag cydweithredu cenedlaethol a rhyngwladol wrth ddefnyddio rhwydwaith unedig er cyfarfod ag anghenion amrywiol defnyddwyr addysg ac ymchwil.
IECHYD
- Mae PSBA yn cysylltu dros 1,500 ysgol, 14 sefydliad addysg bellach a 9 prifysgol yng Nghymru, ynghyd â chyrff eraill sy’n gysylltiedig â’r cymunedau addysg ac ymchwil. Bydd defnydd eang o arfau dysgu arlein, cynnwys gwerthfawr ar y we, asesiadau arlein a gwasanaethau cwmwl o fewn y sectorau addysg cynradd, uwchradd & trydyddol yn mynnu rhwydweithiau cyflym, diogel a dibynadwy er cefnogi agendau addysg ac ymchwil y dyfodol. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu atebion fydd yn diwallu anghenion y cymunedau hyn yn y dyfodol wrth gynnal cysylltiadau ystod eang ar gyfer ysgolion, colegau a phrifysgolion er cefnogi arloesi, ymchwil a dysgu. Bydd PSBA yn darparu mynediad i adnoddau dysgu o safon ac yn taclo rhwystrau rhag cydweithredu cenedlaethol a rhyngwladol wrth ddefnyddio rhwydwaith unedig er cyfarfod ag anghenion amrywiol defnyddwyr addysg ac ymchwil.
SUT ALLAI CYRFF ERAILL ELWA O DDEFNYDDIO PSBA
Gallai cyrff elwa o ddefnyddio un rhwydwaith cyfathrebu ar gyfer sector cyhoeddus Cymru, sy’n fwy cost effeithiol na chyrff unigol yn cynnal sawl rhwydwaith ar wahân. Ac mae ein cytundebau lefelau gwasanaeth yn gwarantu gwasanaeth o’r safon uchaf sy’n uwch na’r lefelau bydd eich corff angen. Cysylltwch â ni i glywed mwy am y buddion (link to benefits page) gallai PSBA gynnig i’ch corff.
Erbyn hyn mae cyrff fel Cyfoeth Naturiol Cymru, ac awdurdodau parciau cenedlethol eisoes yn elwa o wasanaethau PSBA ac opsiynau hyblyg i gynyddu’r ystod os bydd galw’n codi yn y dyfodol. Mae cymdeithas adeiladu Grŵp Cynefin yn enghraifft arall o gorff yn bachu ar atebion PSBA i daclo heriau gweithredu.
DIOGELWCH
Yr arbenigedd a’r wybodaeth i nodi a thaclo materion diogelwch er diogelu cyrff sector cyhoeddus ar draws y wlad. Bydd ein gwasanaethau diogelwch yn helpu i daclo heriau ym meysydd cydymffurfio, aeddfedrwydd digidol, asesu a rheoli risgiau, a diogelu gwybodaeth ac asedau.