1.  
    1. Mae’r telerau ac amodau hyn (“Telerau”) yn rheoli defnydd o wefan PSBA neu unrhyw ran ohoni (“y Safle”). Gall PSBA addasu’r telerau o bryd i’w gilydd ac awgrymir eich bod yn adolygu’r Telerau yn rheolaidd er mwyn cadw i fyny ag unrhyw newidiadau. Wrth ddefnyddio’r Safle rydych yn cytuno i ddilyn y Telerau.
    2. Am wybodaeth am ein Polisi Preifatrwydd, sut byddwn yn defnyddio cwcis ac yn cael caniatâd, cliciwch https://www.psba.llyw.cymru/privacy-policy/
    3. Mae unrhyw gyfeiriad at gynnyrch (cynhyrchion) yn cynnwys gwasanaeth(au).
  2. DEFNYDD O’R SAFLE
    1. Mae’r Safle er defnydd gan ddefnyddwyr yn y Deyrnas Unedig yn unig.
    2. Gall y Safle gynnwys linciau i safleoedd eraill PSBA, safleoedd Llywodraeth Cymru neu i safleoedd trydydd partïon a allai fod yn destun telerau ac amodau ar wahân.
    3. Ni fydd unrhyw linciau i wefannau trydydd partïon yn cynrychioli cymeradwyaeth o’r safleoedd hynny gan PSBA a bydd unrhyw ddefnydd o’r safleoedd hynny ar eich risg eich hun.
  3. COFRESTRU
    1. Rhaid cofrestru i weld rhai tudalennau ar y wefan ond ni fydd rhaid cofrestru i fynd ar y rhan helaeth o’r tudalennau ar y Safle. Os byddwch yn cofrestru, gallwn ofyn i chi ddarparu manylion personol fel enw, cyfeiriad, cyfeiriad ebost a rhif ffôn.
    2. Chi sy’n gyfrifol am ddefnydd priodol o unrhyw gyfrineiriau a’u diogelwch. Nid yw PSBA yn gwarantu diogelwch y Safle rhag defnydd anawdurdodedig neu anghyfreithlon.
    3. Gall PSBA ddileu cofrestriad (ac unrhyw wybodaeth neu ddata cysylltiedig) heb rybudd os na fydd wedi’i ddefnyddio am dros 12 mis.
  4. ARGAELEDD
    1. Nid yw darparu safle sy’n llwyr heb namau yn dechnegol ymarferol ac nid yw PSBA wedi ymrwymo i wneud hynny. Os bydd nam yn codi, bydd PSBA yn ceisio adfer y Safle cyn gynted â phosibl.
    2. Ar adegau gellir atal neu gyfyngu mynediad i’r safle am resymau gweithredol fel gwaith cynnal a chadw neu gyflwyno adnoddau neu gynnyrch newydd.
    3. Mae PSBA yn cadw’r hawl ar unrhyw amser a heb rybudd i addasu, golygu, dileu, atal neu derfynu dros dro neu’n barhaol, unrhyw gynnwys, yn cynnwys unrhyw gynhyrchion ar gael drwy’r Safle, neu’r Safle neu unrhyw ran ohono.
  5. CYNHYRCHION
    1. Cynhyrchion
      Mae cynhyrchion a ddarperir gan PSBA (ble mae’r contract rhyngoch chi a PSBA) yn destun telerau ac amodau ar wahân.
  6. CYNNWYS A HAWLFRAINT PSBA
    1. Mae cynnwys a ddarperir gan PSBA yn cynnwys ffeiliau gwybodaeth, data, deunydd, testun, cynlluniau, graffeg, lluniau, fideo, ffotograffau, rhaglenni, meddalwedd, sain a ffeiliau eraill, a’u dewis a chyflwyniad, yn eiddo PSBA neu wedi’u trwyddedu i PSBA gan drydydd partïon. Diogelir gan hawlfraint, nodau masnach neu hawliau eiddo deallusol eraill cymwys a darperir ar gyfer eich defnydd chi yn unig. Gwaherddir ailgyhoeddi neu ailddosbarthu’r cynnwys, yn cynnwys fframio neu ddulliau tebyg.
    2. Gwallau
      Os hysbysir PSBA o unrhyw wallau yn y cynnwys, bydd PSBA yn gwneud ymdrechion rhesymol i’w cywiro cyn gynted â phosibl.
  7. EICH CYNNWYS
    1. Chi sy’n gyfrifol am yr holl gynnwys yn cynnwys sylwadau, ffeiliau, deunydd, awgrymiadau a syniadau byddwch yn llwytho neu’n postio ar y safle neu’n cyfathrebu i ddefnyddwyr eraill drwy’r Safle. Os na fyddwch chi wedi creu’r cynnwys, eich cyfrifoldeb chi fydd sicrhau eich bod yn cael yr holl gydsyniadau angenrheidiol gan y perchennog.
    2. Rydych yn cytuno i roi i PSBA (fel darparwr y Safle) drwydded fyd-eang anghyfyngedig, trosglwyddadwy, rhydd o freindaliadau i ddefnyddio neu gyhoeddi unrhyw gynnwys byddwch yn llwytho, postio neu’n gwneud ar gael fel arall ar y Safle. Mae hynny’n cynnwys defnydd di-dâl gan PSBA i wneud gwelliannau i’r Safle neu i unrhyw gynnyrch.
  8. YMRWYMIADAU’R CWSMER
    1. Rhaid i chi beidio â chaniatáu neu wneud unrhyw ymgais i ddadgydosod, dadadeiladu, datgymalu, chwalu, hacio neu ymyrryd fel arall â’r Safle.
    2. Nid oes hawl gennych i ddefnyddio’r Safle:
      (a) er cael mynediad anawdurdodedig i systemau cyfrifiadurol eraill;
      (b) er cymell cyfranogiad mewn trafodaeth gyhoeddus, dadl, sylwadau neu weithgaredd tu hwnt i’r Safle;
      (e) er cymell cyfranogiad mewn trafodaeth gyhoeddus, dadl, sylwadau neu weithgaredd tu hwnt i’r Safle;
      (d) er darparu gwybodaeth anghywir neu gamarweiniol am eich hun neu eich busnes, neu greu hunaniaeth ffug;
      Cyffredinol
      (e) er torri unrhyw drwydded, cod ymarfer, cyfarwyddiadau neu ganllawiau a gyhoeddir gan unrhyw awdurdod rheoleiddio, hawliau trydydd parti, neu unrhyw gyfarwyddiadau neu bolisïau PSBA;
      (f) trwy dwyll neu mewn cysylltiad â throsedd neu mewn unrhyw fodd sy’n anghyfreithlon neu’n torri unrhyw ddeddf a rhaid i chi sicrhau na fydd hynny’n digwydd; neu
      (g) er anfon, cyfathrebu, derbyn yn fwriadol, gosod neu lwytho unrhyw gynnwys sy’n sarhaus, difrïol, anweddus, difenwol, enllibus, anllad, bygythiol, neu sy’n achosi blinder, anghyfleustra, pryder diangen neu a fwriedir i dwyllo.
  9. ATAL & TERFYNU
    1. Ar ei ddisgresiwn i hun, os bydd PSBA, yn credu eich bod wedi:(a) camddefnyddio’r Safle (neu unrhyw ran ohono) mewn unrhyw ffordd; neu
      (b) torri unrhyw un o’r Telerau, neu unrhyw gontract gyda PSBA,
    2. gall PSBA, heb rybudd, derfynu eich cofrestriad, neu atal neu derfynu eich mynediad i’r Safle. Ni fydd dyletswydd o unrhyw fath ar PSBA i adfer eich cofrestriad.
  10. INDEMNIAD
    1. Byddwch yn amddiffyn PSBA rhag niwed ac yn indemnio PSBA yn erbyn unrhyw hawliau, colledion a rhwymedigaethau yn codi o unrhyw hawliau gan unrhyw drydydd parti, mewn cysylltiad â defnydd neu gamddefnydd o’r Safle sy’n cynrychioli torri’r Telerau.
  11. DIM GWARANTAU
    1. Oni nodir yn benodol fel arall yn y Telerau hyn neu o fewn telerau ac amodau ar wahân, darperir deunydd ar y Safle “fel y mae”, heb unrhyw amodau, gwarantau neu delerau eraill o unrhyw fath. Yn unol â hynny, i’r eithaf a ganiateir gan y gyfraith, mae PSBA yn darparu’r Safle ar eich cyfer ar y sail bod PSBA yn eithrio pob cynrychiolaeth, gwarant, amod a thelerau eraill (yn cynnwys heb gyfyngiad, yr amodau ymhlyg gan y gyfraith o ran ansawdd derbyniol, ac addasrwydd at y pwrpas) a allai, oni am yr hysbysiad cyfreithiol hwn, gael effaith mewn cysylltiad â’r Safle.
  12. ATEBOLRWYDD PSBA
    1. Nid yw PSBA yn atebol boed mewn contract, tort, o dan statud, am gamliwio neu fel arall (yn cynnwys esgeulustod ym mhob achos) ac os hysbyswyd y parti perthnasol ymlaen llaw ai peidio o’r posibilrwydd o’r fath golled neu ddifrod, am:
      (a) unrhyw golled neu ddifrod o’r fath ddilynol boed yn uniongyrchol, anuniongyrchol neu ôl-ddilynol dim ots sut bydd yn codi o dan neu mewn cysylltiad â’r Contract neu unrhyw ran ohono: colli elw, colli refeniw, colli arbedion rhagweledig, colli cyfleoedd, colli busnes, gwariant gwastraff, colledion o ymyrraeth â busnes, colli, llygru neu ddifrodi data, colli contractau, colledion o reolwyr a gweithwyr yn treulio amser, atebolrwydd i drydydd partïon, colledion ariannol yn deillio o ewyllys da, neu golli neu ddifrodi ewyllys da; neu
      (b) unrhyw golled neu ddifrod uniongyrchol neu ôl-ddilynol o unrhyw fath, yn arwain o’ch defnydd neu anallu i ddefnyddio’r Safle, neu wrth i chi ddibynnu ar gywirdeb neu gyflawnrwydd cynnwys y Safle.
    2. Nid oes unrhyw beth yn y Telerau hyn:
      (a) yn gymwys i atebolrwydd PSBA o ran cynnyrch a werthir o dan delerau ac amodau safonol PSBA; neu
      (b) yn eithrio neu’n cyfyngu mewn unrhyw ffordd atebolrwydd PSBA am farwolaeth neu niwed personol a achosir gan ei esgeulustod nac i unrhyw raddau na chaniateir gan y gyfraith.
  13. TROSGLWYDDO HAWLIAU A RHWYMEDIGAETHAU
    1. Nid oes hawl gennych i drosglwyddo unrhyw un o’ch hawliau neu rwymedigaethau o dan y Telerau i barti arall.
  14. ILDIAD HAWL
    1. Os bydd PSBA yn oedi cyn gweithredu ar doriad o’r Telerau hyn, ni ystyrir yr oedi yn ildiad o’r toriad hwnnw. Os bydd PSBA yn ildio toriad o’r Telerau bydd yr ildiad yn gyfyng i’r toriad hwnnw.
  15. MATERION TU HWNT EIN RHEOLAETH RESYMOL
    1. Ni fydd PSBA yn atebol am unrhyw doriad o’r telerau a achosir gan faterion tu hwnt i reolaeth resymol PSBA.
  16. CYFRINACHEDD
    1. Yn amodol ar gymal 17.2, byddwch chi a PSBA yn cadw’n gyfrinachol unrhyw wybodaeth o natur gyfrinachol a dderbynnir wrth ddefnyddio’r Safle ac nid yn datgelu’r wybodaeth honno i unrhyw berson ac eithrio eu gweithwyr neu ymgynghorwyr proffesiynol (neu, yn achos PSBA gweithwyr cwmnïau grŵp PSBA neu eu cyflenwyr).
    2. Ni fydd Cymal 17.1 yn gymwys i:
      (a) unrhyw wybodaeth a gyhoeddwyd ac eithrio drwy doriad o’r Telerau;
      (b) gwybodaeth ym meddiant cyfreithlon y derbyniwr cyn y datgeliad;
      (c) gwybodaeth y gofynnir parti i ddatgelu y byddai’r gyfraith yn mynnu ei datgelu os na fyddai’n gwneud hynny.*
  17. DIOGELU DATA
    1. Bydd PSBA yn cydymffurfio â’i rwymedigaethau o dan ddeddfwriaeth diogelu data perthnasol ac yn cynnal yr holl gofrestriadau a hysbysiadau at ddibenion gweithredu’r Safle.
  18. DIOGELU RHAG FIRYSAU
    1. Rhaid i chi gymryd pob cam rhesymol er sicrhau na fydd unrhyw feddalwedd byddwch yn defnyddio gyda neu mewn cysylltiad â’r Safle wedi ei heintio gan firysau.
    2. Bydd PSBA yn cymryd pob cam rhesymol i sicrhau na fydd unrhyw feddalwedd a ddefnyddir mewn cysylltiad â’r Safle wedi ei heintio gan firysau.
    3. Bydd y safle yn cael ei sganio bob dydd er gwirio dilysrwydd cod y safle am unrhyw newidiadau nad ydynt yn gysylltiedig â’r cod gwreiddiol.
    4. Bydd muriau gwarchod yn diogelu rhag y dilynol ond nid yn gyfyng iddynt: SQL Injection, Cross site Scripting (XSS), llwytho ffeiliau maleiswedd, directory traversal, location file inclusion, External Entity Expansions (XXE).
    5. Cyfuniad o furiau gwarchod gweinyddion PSBA, carchardai SSH a blocio pyrth hefyd yn helpu i rwystro ymosodiadau plellach.
  19. TORADWYEDD
    1. Os pennir unrhyw ddarpariaeth o’r telerau hyn yn annilys, anghyfreithlon neu anorfodadwy am unrhyw reswm gan unrhyw lys o awdurdodaeth gymwys, fe dorrir y fath ddarpariaeth a bydd gweddill y darpariaethau’n parhau mewn grym ac effaith lawn.
  20. HAWLIAU TRYDYDD PARTI
    1. Ni fydd unrhyw hawl gan berson nad yw’n barti i’r telerau hyn o dan amodau Deddf Contractau (Hawliau Trydydd Partïon) 1999 i weithredu unrhyw un o’r telerau hyn, ond ni fydd hynny’n effeithio unrhyw hawl neu rwymedi trydydd parti sy’n bodoli neu ar gael ar wahân i’r Ddeddf.
  21. CYFRAITH GYMWYS
    1. Rheolir y telerau hyn gan gyfraith Cymru a Lloegr. Bydd unrhyw anghydfodau sy’n codi o ddefnydd o’r Safle yn destun awdurdodaeth allgynhwysol Llysoedd Lloegr.

Os bydd gwrthdaro rhwng fersiwn Cymraeg y Telerau ac Amodau hyn a’r Fersiwn Saesneg, bydd y Fersiwn Saesneg yn drech

CYSYLLTU

Os oes diddordeb gennych mewn ymuno â PSBA neu am fanylion pellach, anfonwch neges at PSBA.new.connection.enquiries.bt.com a bydd aelod o’r tîm yn cysylltu â chi.