Yr her
Roedd y brifysgol wedi gofyn am rwydwaith Wi-Fi cost effeithiol a dibynadwy i gymryd lle’r Wi-Fi blaenorol. Wrth groesawu miloedd o ymwelwyr bob blwyddyn, roedd y brifysgol angen rhwydwaith cyflym, diogel a dibynadwy.
Ac wrth ddarparu’r technolegau a chysylltedd angenrheidiol er galluogi cyrff sector cyhoeddus i gynnal gwasanaethau effeithlon, roedd PSBA wrth law i helpu.
Yr ateb
Dechreuodd y brifysgol ddefnyddio Wi-Fi Cyhoeddus PSBA ym Mawrth 2022 er mwyn cynnig mynediad i adnoddau arlein drwy rwydwaith diogel a chost effeithiol.
Mae cynnal ei rwydweithiau corfforaethol a chyhoeddus ar wahân wedi helpu i ddiogelu adnoddau’r brifysgol. Erbyn hyn mae ganddi fwy o reolaeth dros fynediad i wybodaeth sensitif, gan warchod dogfennau cyfrinachol a dilyn polisïau’r llywodraeth fel Deddf Diogelu Data (1998) a GDPR (General Data Protection Directive) yr Undeb Ewropeaidd.
Mae cael tîm arbenigwyr PSBA i reoli’r risgiau yn gysylltiedig â darparu mynediad i wasanaethau rhyngrwyd cyhoeddus wedi helpu i wella cynhyrchiant staff y brifysgol, gan hwyluso ad-drefnu amser, gwaith ac adnoddau i ganolbwyntio ar brojectau strategol.
Profwyd y gwasanaeth Wi-Fi Cyhoeddus yn ystod cynhadledd haf flynyddol y brifysgol, pan oedd dros 1,000 o ymwelwyr wedi defnyddio’r rhwydwaith heb broblem, gan fodloni’r gwesteion a darparu gwasanaeth dibynadwy drwy gydol y cyfnod.
Mae’r rheolwr seilwaith, Hefin James, wedi gweithio i’r brifysgol am dros 20 blynedd, ac mae’n cymell busnesau sector cyhoeddus eraill i ddefnyddio gwasanaethau PSBA am eu bod mor gost effeithiol a dibynadwy.
Sut helpodd
Corff allanol yn rheoli risgiau
Gwella diogelwch
Gwasanaeth cost effeithiol
Rhwydwaith dibynadwy
Sy’n golygu
Mwy o amser i gynnal projectau eraill
Mwy o amser i gynnal projectau eraill
Gwella cynhyrchiant