GWEITHIO GYDA SECTOR CYHOEDDUS CYMRU

PSBA yn galluogi byrddau iechyd lleol, awdurdodau lleol, sefydliadau addysg uwch & pellach, gwasanaethau brys golau glas a chyrff cyhoeddus eraill yng Nghymru i ddarparu gwasanaethau effeithiol ac effeithlon ar gyfer ein dinasyddion.

GWEITHIO GYDA’R SECTOR CYHOEDDUS, AR GYFER SECTOR CYHOEDDUS CYMRU

EIN SECTORAU

Gwasanaethau Brys

PSBA yn darparu technoleg sy’n galluogi heddluoedd, gwasanaethau ambiwlans a gwasanaethau tân ac achub i ymateb yn gyflymach i achosion brys, gwella cynhyrchiant a diogelu cymunedau.

Parhau darllen

EIN SECTORAU

Iechyd

Crwydro PSBA yn cysylltu gweithwyr iechyd a gofal cymdeithasol â’u rhwydweithiau cartref o wahanol safleoedd ac yn sicrhau eu bod yn gallu cael yr wybodaeth angenrheidiol wrth deithio o gwmpas.

Parhau darllen

EIN SECTORAU

Addysg

PSBA yn cysylltu sefydliadau addysg uwch a phellach a dros 1,500 ysgol ar draws y wlad. Mae gwasanaeth WebSafe yn diogelu’r rhwydwaith, gan alluogi ysgolion i reoli’r risgiau’n gysylltiedig â defnyddio’r we a nodi cynnwys arlein anaddas

Parhau darllen

EIN SECTORAU

Awdurdodau Lleol

PSBA yn cysylltu’r 22 awdurdod lleol â’r rhwydwaith, gan ddarparu cysylltiadau diogel, cyflym a hwylus ar gyfer gweithwyr wrth deithio o gwmpas.

Parhau darllen

EIN SECTORAU

Cyrff Eraill

Llywodraeth Cymru a chyrff sector cyhoeddus bach eraill, fel awdurdodau parciau cenedlaethol a chymdeithasau tai, eisoes yn elwa o wasanaethau newydd PSBA ac opsiynau hyblyg i gynnal tyfiant cost effeithiol.

Parhau darllen

Gwasanaethu

Mae ein cyrff sector cyhoeddus yn gwasanaethu Cymru gyfan.
Cliciwch ar sector i weld eu lleoliadau.


PSBA sector map

Enghreifftiau

Yr her

Erbyn hyn mae cael gwasanaeth band eang dibynadwy yn hanfodol i athrawon sydd am wneud y gorau o adnoddau arlein. Nid oedd cysylltiad rhyngwyd blaenorol yr ysgol yn ddigonol wrth lwytho data ar 0.5Mbps a’r cyflymder hyd yn oed yn arafach wrth anfon data. Roedd Fay a’i thîm yn gwastraffu llawer o amser yn aros i’r porwr weithredu, gan effeithio amserau dysgu. Nid oedd yr athrawon yn gallu cyflawni tasgau sylfaenol fel anfon negeseuon ebost gydag atodiad a’r plant yn methu gweithio ar brojectau technoleg gwybodaeth a chyfathrebu.

Yr ateb

Darparodd PSBA ateb FTTP. Yn awr mae’r ysgol yn mwynhau cyflymder llwytho data hyd at 80Mbps, 150 gwaith yn gyflymach nag yn y gorffennol. O ganlyniad mae’r plant yn gallu cael profiadau dysgu arlein cyfoethog, gyda mynediad i adnoddau arlein yn cefnogi datblygiad sgiliau llythrennedd digidol. Yn ogystal, mae Borderbrook yn awr yn gallu defnyddio Hwb Llywodraeth Cymru, sef casgliad o adnoddau addysg arlein. Erbyn hyn mae’r athrawon a disgyblion yn creu ac yn rhannu adnoddau eu hunain.

Enghreifftiau

Yr her

Yn y gorffennol roedd y Gwasanaeth yn wynebu problemau darparu cysylltiadau cyflym a chost effeithiol ar gyfer y gorsafoedd gwledig. Bydd y gwasanaethau tân ac achub yn cynnal hyfforddiant gwella sgiliau yn wythnosol sydd angen cysylltiadau cyfathrebu da. Wrth gynnal y nosweithiau ymarfer yn ystod cyfnodau brig gwasanaethau band eang, roedd y
cysylltiadau’n araf ac anghyson.

Yr ateb

Darparodd PSBA gymysgedd o nodau er mwyn diwallu anghenion y Gwasanaeth. Erbyn hyn mae’n gallu anfon a derbyn data mor gyflym, ac o ganlyniad mae wedi anghofio problemau cynnal nosweithiau hyfforddiant y gorffennol. Mae pob gorsaf yn elwa o gysylltiadau cyflymach a mwy dibynadwy.

Enghreifftiau

Yr her

Wrth ddefnyddio’r gweinydd dirprwyol blaenorol, nid oedd SRS yn gallu rheoli pori ar y we mewn amser real. Bryd hynny roedd rhaid i’r staff/gweithwyr gynhyrchu adroddiadau a dadansoddi data er mwyn nodi achosion o bwys.

Yr ateb

Erbyn hyn mae SRS yn gallu ffurfweddu rhybuddion, gan edrych ar adroddiadau pori’r we mewn amser real a chymryd camau brys i daclo sefyllfa pan fydd angen. Yn ogystal mae’n gallu hidlo ac adrodd ar unrhyw gymalau chwilio o fewn Google ac YouTube. Mae’r nodweddion diogelwch hyn yn hanfodol o fewn amgylchedd addysg.

Enghreifftiau

Yr her

Roedd gweithwyr iechyd a gwasanaethau cymdeithasol yn wynebu problemau wrth geisio cydweithio’n effeithiol, gyda dim modd dibynnu ar gysylltiadau rhyngrwyd a wifi. Gan fod cydweithredu’n allweddol, roedd angen newid dulliau cyfathrebu er hwyluso cysylltiadau data cyflym a diogel mewn pob un o adeiladau’r Cyngor.

Yr ateb

Mae gwasanaeth crwydro PSBA wedi gwella cysylltiadau gwaith traws ffiniau rhwng yr awdurdod iechyd a’r cyngor. Erbyn hyn mae’r gweithwyr yn gallu menwgofnodi ar eu rhwydweithiau perthnasol yn syth o unrhyw swyddfa ar Wyr Ynys.

CYSYLLTU

Os oes diddordeb gennych mewn ymuno â PSBA neu am fanylion pellach, anfonwch neges at PSBA.new.connection.enquiries.bt.com a bydd aelod o’r tîm yn cysylltu â chi.