Pam polisi preifatrwydd?

Yn gyntaf, mae dyletswydd gyfreithiol arnom i’ch hysbysu o’r manylion personol byddwn yn casglu amdanoch, ein defnydd ohonynt ac ar ba sail. Wrth wneud hynny byddwn bob amser angen rheswm da a hefyd yn gorfod esbonio eich hawliau mewn cysylltiad â’r wybodaeth honno. Mae hawl gennych i wybod pa fanylion byddwn yn cadw amdanoch ac i gael copi ohonynt, a gallwch ofyn ni i’w newid neu weithiau eu dileu.

Nodir ein rhesymau am gasglu gwybodaeth yn y polisi preifatrwydd hwn, ond nid mater o’ch hysbysu o’r manylion hyn am fod rhaid gwneud hynny yw’r sefyllfa. Fel cwmni cyfathrebu, mae’r rhan fwyaf o’n gwaith yn golygu defnydd o fanylion personol ac i ni mae’n bwysig iawn bod ein cwsmeriaid yn gallu dibynnu arnom i’w trin yn gywir. Rydym am i chi fod yn hyderus byddwn yn cadw’r manylion yn ddiogel a’u defnyddio’n gyfreithiol a moesegol, gan barchu eich preifatrwydd.

Mae ein polisi preifatrwydd yn esbonio sut byddwn yn defnyddio eich gwybodaeth bersonol ac yn disgrifio ein gwaith (neu beth allwn wneud) o’r eiliad byddwch yn gofyn am wasanaeth gennym. Bydd hefyd yn gymwys i farchnata gwasanaethau eraill y credwn bydd o ddiddordeb i chi.

Ond beth bynnag a wnawn gyda’ch manylion, bydd angen sail gyfreithiol am wneud hynny. Yn gyffredinol byddwn yn dibynnu ar un o dri rheswm am ein prosesu busnes. Yn gyntaf, os byddwch wedi archebu gwasanaeth gennym, bydd hawl gennym i brosesu eich gwybodaeth er darparu’r gwasanaeth hwnnw ar eich cyfer a’ch bilio amdano.

Yn ail, os byddwn am gasglu a defnyddio eich gwybodaeth at ddibenion eraill, efallai bydd angen gofyn am eich caniatâd ac, os felly, rhaid mynegi’r caniatâd hwnnw drwy weithred bositif gennych (fel ticio blwch) a’ch bod yn deall hynny. Yn ogystal, bydd hawl gennych i ddileu eich caniatâd ar unrhyw amser. Mae’n debyg byddwn angen caniatâd pan fydd yr hyn a fwriedir yn fwy arwyddocaol (er enghraifft, rhannu eich manylion cyswllt â chyrff eraill er mwyn eu galluogi i farchnata cynnyrch a gwasanaethau i chi).

Ond ni fyddwn angen caniatâd bob amser. Mewn rhai achosion, ar ôl asesu os bydd ein defnydd yn deg ac nid yn bygwth eich hawl i breifatrwydd, fe allwn bennu ei fod o fewn y trydydd rheswm – sef ein ‘diddordebau cyfreithlon’ i ddefnyddio’r wybodaeth mewn ffordd benodol heb eich caniatâd (er enghraifft, er diogelu ein rhwydwaith rhag ymosodiadau seiber). Ond pan fyddwn yn gwneud hynny, rhaid eich hysbysu chi gan y gallai fod hawl gennych i’w wrthwynebu. Ac os byddwch yn gwrthwynebu’n benodol ein bwriad i anfon deunydd marchnata atoch, neu ‘gosod proffil’ at ddibenion marchnata, yna rhaid i ni stopio gwneud hynny.

Rheoliad Diogelu Data Cyffredinol (GDPR y DU)

O dan y rheoliad, mae hawliau gennych fel unigolyn y gallwch weithredu mewn cysylltiad â’r wybodaeth byddwn yn dal amdanoch, sef:

  • Hawl mynediad i gopi o’r wybodaeth yn eich data personol
  • Hawl i wrthwynebu prosesu sy’n debygol o achosi neu sy’n achosi niwed neu drallod
  • Hawl i atal prosesu at ddibenion marchnata uniongyrchol
  • Hawl i wrthwynebu penderfyniadau a wneir trwy ddulliau otomeiddiedig
  • Hawl o dan rai amgylchiadau i gywiro, blocio, dileu neu ddinistrio data personol anghywir
  • Hawl i gael iawndal am ddifrod a achosir wrth dorri amodau’r ddeddf

Gwybodaeth byddwn yn casglu a’n defnydd ohono?

Gallwn gasglu, storio a defnyddio’r wybodaeth ddilynol:

  • Gwybodaeth am eich cyfrifiadur ac am eich ymweliadau â, a defnydd o’r wefan hon (yn cynnwys eich cyfeiriad IP, lleoliad daearyddol, eich porwr, ffynhonnell eich cyfeiriad, hyd yr ymweliad a nifer y tudalennau a wyliwyd);
  • Gwybodaeth byddwch yn rhoi i ni er mwyn sefydlu cyfrif yn adran drefniadol y wefan;
  • Gwybodaeth byddwch yn rhoi i ni er mwyn cofrestru eich diddordeb gyda ni (yn cynnwys eich cyfeiriad ebost, rhif ffôn ac enw);
  • Gwybodaeth byddwch yn rhoi i ni er mwyn derbyn newyddion am gynnyrch a gwasanaethau yn y dyfodol;
  • Unrhyw wybodaeth arall byddwch yn penderfynu anfon atom.

Byddwn yn defnyddio data personol a gyflwynir ar y wefan hon at y dibenion a fanylir yn y polisi preifatrwydd hwn neu mewn rhannau perthnasol o’r wefan.

Gallwn ddefnyddio’r wybodaeth er:

  • Gweinyddu’r wefan;
  • Hwyluso eich defnydd o’r gwasanaethau ar y wefan;
  • Cysylltu â chi mewn ymateb i ymholiad penodol;
  • Anfon negeseuon masnachol cyffredinol (nid marchnata) atoch;
  • Anfon gwybodaeth atoch am wasanaethau a datblygiadau i ddod, a deunydd marchnata arall yn gysylltiedig â’n busnes pan fyddwch wedi cytuno’n benodol i hynny drwy ebost neu dechnolegau tebyg (gallwch ein hysbysu ar unrhyw amser os na fyddwch bellach am dderbyn negeseuon marchnata).

Rheoli gwybodaeth amdanoch chi

Pan fyddwch yn llenwi ffurflen neu’n darparu manylion personol ar ein gwefan, byddwch yn gweld blwch tic yn eich galluogi i ddewis derbyn negeseuon marchnata oddi wrthym ar ebost, ffôn, testun neu’r post. Os byddwch wedi cytuno i ni ddefnyddio eich gwybodaeth at ddibenion marchnata, gallwch newid eich meddwl ar unrhyw amser wrth anfon neges at psba.security@bt.com

Ni fyddwn yn prydlesu, dosbarthu neu werthu eich manylion personol i drydydd partïon oni fyddwch wedi rhoi caniatâd i ni wneud hynny neu fod y gyfraith yn galw arnom i wneud hynny.

Ymwelwyr â gwefan PSBA

Pan fydd rhywun yn ymweld â gwefan PSBA, byddwn yn defnyddio gwasanaeth trydydd parti, Google Analytics, i gasglu gwybodaeth mewngofnodi rhyngrwyd safonol a manylion patrymau ymddygiad ymwelwyr. Byddwn yn gwneud hynny er mwyn canfod pethau fel nifer yr ymhelwyr â gwahanol rannau o’r safle. Prosesir y manylion hyn mewn modd anhysbys na fydd yn nodi unrhyw unigolyn. Ni fyddwn yn gwneud, ac nid yn caniatáu Google i wneud, ymgais i ganfod identiti pobl sy’n ymweld â’n gwefan. Os byddwn am gasglu manylion personol drwy ein gwefan, byddwn yn agored am hynny, gan egluro pan fyddwn yn casglu manylion personol ac yn esbonio sut byddwn yn eu defnyddio.

CWCIS

Os bydd gwrthdaro rhwng fersiwn Cymraeg yr hysbysiad cwcis hwn a’r fersiwn Saesneg, bydd y fersiwn Saesneg yn drech.

Cwcis cyfrif:

Os bydd cyfrif gennych a’ch bod yn mewngofnodi ar y safle hwn, byddwn yn gosod cwci dros dro er pennu os bydd eich porwr yn derbyn cwcis. Ni fydd y cwci yn cynnwys unrhyw ddata personol ac yn cael ei ddileu pan fyddwch yn cau eich porwr.

Wrth fewngofnodi, byddwn hefyd yn gosod sawl cwci i gadw eich manylion mewngofnodi a’ch opsiynau sgrin. Bydd cwcis mewngofnodi yn para deuddydd, a chwcis opsiynau sgrin yn para blwyddyn. Wrth ddewis “Cofio Fi”, bydd eich mewngofnod yn para pythefnos.

Wrth allgofnodi o’r cyfrif, bydd y system yn dileu eich cwcis mewngofnodi.

Os byddwch yn golygu neu’n cyhoeddi erthygl, bydd y system yn cadw cwci ychwanegol yn eich porwr. Ni fydd y cwci yn cynnwys data personol ac ond yn nodi ID post yr erthygl byddwch newydd olygu. Bydd yn dileu ar ôl 1 diwrnod.

Gallwn hefyd ddefnyddio cwcis i nodi iaith ymwelydd, iaith yr ymwelydd blaenorol ac iaith pobl eraill fydd wedi mewngofnodi.

Cwcis dadansoddol:

Bydd cwcis (anhysbys) yn hwyluso mesur defnydd o’r wefan a’i gwella ar gyfer defnyddwyr. Er enghraifft, y porwr a ddefnyddiwyd, amser ar y safle, y dudalen â’ch arweiniodd at y wefan a pha dudalennau ar ein gwefan yr aethoch arnynt.

Cynnwys o wefannau eraill

Gall erthyglau ar y safle hwn gynnwys cynnwys wedi’i fewnosod (ee fideos, delweddau, erthyglau etc). Bydd cynnwys wedi’i fewnosod o wefannau eraill yn ymddwyn yn yr un modd fel petai’r ymwelydd wedi ymweld â’r wefan arall.

Gallai’r gwefannau hyn gasglu data amdanoch, defnyddio cwcis, mewnosod tracio trydydd parti ychwanegol a monitro eich rhyngweithio â’r cynnwys mewnosod hwnnw, yn cynnwys tracio eich rhyngweithio â’r cynnwys mewnosod os bydd cyfrif gennych ac wedi mewngofnodi ar y wefan honno.

Defnydd cwcis PSBA

Mae cwcis yn ffeiliau testun bach a roir ar eich cyfrifiadur neu ddyfais symudol gan wefannau byddwch yn ymweld â nhw. Byddant yn helpu gwefannau i weithio’n fwy effeithiol ac yn darparu gwybodaeth i berchnogion y safle. Er enghraifft, byddwn yn defnyddio cwcis iaith er gwybod pa iaith byddwch am weld ar y wefan a bydd cwcis Google Analytics yn olrhain ymddygiad defnyddwyr ar y safle. Wrth ddeall sut bydd pobl yn defnyddio’r safle, gallwn hwyluso eich taith ar draws y safle a darparu cynnwys addas i chi. Bydd y manylion a gesglir gan PSBA yn cynnwys y cyfeiriad IP, tudalennau a ymwelir, y porwr a’r system weithredu. Ni ddefnyddir y data i nodi unrhyw ddefnyddiwr unigol.

Cofrestru

Cyfyngir mynediad i adran drefniadol y wefan i aelod gyrff PSBA ac mae angen cofrestru. Y manylion mandadol byddwn angen er mwyn eich cofrestru yw eich cyfeiriad ebost. Byddwn yn storio’r wybodaeth yn y Deyrnas Unedig ac yn dilyn amodau GDPR y DU wrth wneud hynny. Byddwn yn ei storio tan fyddwch yn dewis dileu eich cyfrif. Gallwch newid eich dewisiadau cofrestru, cyfeiriad ebost a manylion mewngofnodi drwy’r wefan ar unrhyw amser. Os na fyddwch bellach am gael cyfrif ar yr adran drefniadol, nac am dderbyn gwybodaeth gan PSBA, gallwch ddileu eich cyfrif ar unrhyw amser.

Cysylltu â ni a manylion pellach

Os byddwch am gael manylion pellach ar sut byddwn yn defnyddio eich data, neu am wneud sylwadau neu holi am ein polisi preifatrwydd, cysylltwch â ni yn psba.security@bt.com.

Os byddwch am gwyno am ein triniaeth o’ch manylion personol, cysylltwch â’n swyddog diogelu data er mwyn i ni ymchwilio’r mater ac adrodd nôl i chi. Os byddwch yn dal yn anfodlon ar ôl derbyn ein hymateb neu’n dal o’r farn nad ydym yn trin eich manylion personol yn unol â’r gyfraith, mae hawl gennych hefyd i wneud cwyn i’r rheoleiddiwr diogelu data yn y wlad ble rydych yn byw neu’n gweithio . Yn achos y Deyrnas Unedig, dyna’r Comisiynydd Gwybodaeth – https://ico.org.uk/.

Ymateb

Byddwn yn croesawu pob ymateb gennych. Os byddwch yn cysylltu â ni i ofyn am wybodaeth, efallai bydd angen cysylltu ag adrannau eraill i gael y manylion hynny. Ni fyddwn yn trosglwyddo unrhyw wybodaeth bersonol wrth drafod eich ymholiad, oni fyddwch wedi rhoi caniatâd i ni wneud hynny. Unwaith byddwn wedi ymateb i chi, byddwn yn cadw cofnod o’r neges at ddibenion archwilio.

Linciau i wefannau eraill

Nid yw’r polisi preifatrwydd hwn yn trafod unrhyw linciau o fewn y safle i wefannau eraill. Byddwn yn eich cymell i ddarllen y datganiadau preifatrwydd ar y gwefannau eraill byddwch yn ymweld â nhw.

Os bydd gwrthdaro rhwng fersiwn Cymraeg yr Hysbysiad Cwcis hwn a’r Fersiwn Saesneg, bydd y Fersiwn Saesneg yn drech.

Newidiadau i’r polisi preifatrwydd hwn

Os bydd y polisi preifatrwydd hwn yn newid mewn unrhyw ffordd, byddwn yn gosod y fersiwn diweddaraf ar y dudalen hon. Bydd adolygu’r dudalen yn rheolaidd yn sicrhau eich bod bob amser yn ymwybodol o’r wybodaeth byddwn yn casglu, ein defnydd o’r manylion ac o dan ba amgylchiadau, os o gwbl, byddwn yn ei rhannu gyda phartïon eraill.

Diweddarwyd y polisi preifatrwydd hwn ar 9 Chwefror 2021.

Os bydd gwrthdaro rhwng fersiwn Cymraeg y Polisi Preifatrwydd hwn a’r Fersiwn Saesneg, bydd y Fersiwn Saesneg yn drech

CYSYLLTU

Os oes diddordeb gennych mewn ymuno â PSBA neu am fanylion pellach, anfonwch neges at PSBA.new.connection.enquiries.bt.com a bydd aelod o’r tîm yn cysylltu â chi.