Ydych wedi cynllunio gwaith cynnal a chadw a allai arwain at golli cysylltedd PSBA ar un neu fwy o’ch safleoedd? Os felly, cofiwch hysbysu desg gwasanaeth PSBA.
Mae hyn yn cynnwys gweithgareddau gan gyrff PSBA a allai effeithio cysylltiadau eich corff chi ac eraill o’u cynnal ar safle sy’n cynnwys seilwaith craidd PSBA. Bydd yn bwysig ein hysbysu ohonynt er mwyn osgoi dechrau’r broses rheoli achosion yn ddiangen.
Bydd cwsmeriaid angen llenwi templed Hysbysiad Torri Gwasanaeth Cwsmer (Customer Outage Notifications) PSBA a’i anfon at psba.changes@bt.com a psbasupport@bt.com gan roi cymaint o rybudd â phosib er mwyn ei gynnwys ar restr waith ddyddiol desg gwasanaeth PSBA.
Dylai’r ebost gynnwys enw(au) y safleoedd a’r cyfeirnodau PSB perthnasol, yr amserau dechrau a gorffen a’r cyfnod atal disgwyliedig. Bydd ein tîm yn gosod eich safle (neu safleoedd) mewn cymal cynnal a chadw, gan osgoi’r angen i godi ac ymchwilio achos am y cyfnod atal. Bydd hefyd yn arbed amser eich staff wrth osgoi cysylltu â nhw yn ddiangen.
Pan fydd offer seilwaith craidd PSBA ar safle corff a gwaith wedi’i gynllunio a allai effeithio’r offer hwnnw, bydd disgwyl i’r corff lenwi templed Hysbysiad Torri Gwasanaeth Cwsmer PSBA a’i anfon ar ebost at psba.changes@bt.com a psbasupport@bt.com er mwn asesu’r effaith a chael cymeradwyaeth CAB.
Yn unol â’r cytundeb rhwng BT a’r corff PSBA yn cynnal yr offer, bydd angen rhybudd o 20 diwrnod o leiaf er mwyn cynnal asesiad effaith a dadansoddiad risg o’r newidiadau er cynnal cysylltedd y gwasanaeth.