
AM PSBA
Lansiwyd PSBA yn 2007 er mwyn cysylltu cyrff sector cyhoeddus y wlad â rhwydwaith ardal eang (WAN – Wide Area Network) preifat, diogel. Cyllidir PSBA gan Lywodraeth Cymru a darperir gan BT.

Mae PSBA yn galluogi byrddau iechyd lleol, awdurdodau lleol, sefydliadau addysg uwch a phellach, gwasanaethau brys golau glas a chyrff cyhoeddus eraill i ddarparu gwasanaethau effeithlon ar gyfer y boblogaeth wrth ddefnyddio gwasanaethau rhwydwaith arloesol, cost effeithiol a dibynadwy sy’n cynnal cynhyrchiant.
Byddwn yn helpu myfyrwyr a phobl ifanc i gadw’n saff arlein gyda gwasanaeth hidlo’r we effeithiol ar gyfer y maes addysg. Ac yn galluogi dros 100 corff cyhoeddus i daclo rhwystrau logistaidd a threfniadol gyda gwasanaeth crwydro diogel sy’n helpu gweithwyr sector cyhoeddus i wneud eu gwaith – dim ots pa mor bell byddant o’u safle gwaith – mewn bron 5,000 safle sector cyhoeddus ar draws y wlad. Rydym wedi cysylltu 640 meddygfa i’n rhwydwaith, gan helpu i ddiweddaru a gwella adnoddau technoleg gwybodaeth y meddygfeydd.
- Ein Gweledigaeth:
- Ein Cenhadaeth
- Ein Gwerthoedd:
- Creu’r rhwydwaith sector cyhoeddus mwyaf blaenllaw er cydweithio i gyflwyno newidiadau a gwella gwasanaethau cyhoeddus Cymru.
- Cysylltu sector cyhoeddus Cymru â rhwydwaith cyfathrebu cyflym, diogel a dibynadwy.
- Arloesi: bod yn greadigol, blaengar ac eangfrydig er hwyluso newid.
Cydweithredu: crynhoi sgiliau ac adnoddau er lles sector cyhoeddus Cymru.
Tryloyw: darparu gwerth da am yr arian drwy arbedion maint ac osgoi dyblygu.