Mae PSBA yn darparu rhwydwaith cenedlaethol sy’n cysylltu gwasanaethau cyhoeddus Cymru. Rheolir PSBA gan Lywodraeth Cymru a’i weithredu gan BT er mwyn darparu cysylltedd diogel, cadarn a fforddiadwy a ddyfeisiwyd yn benodol ar gyfer y sector cyhoeddus.
Erbyn heddiw, mae PSBA yn cefnogi dros 100 corff sector cyhoeddus ar bron 5,000 safle yng Nghymru, yn cynnwys byrddau iechyd, awdurdodau lleol, ysgolion, colegau a gwasanaethau brys.
Mae PSBA yn cyfuno seilwaith diogel, monitro rhwydweithiau a chymorth penodol gan ein tîm yng Nghaerdydd, gan helpu cyrff i gynnal cysylltedd a diogelu gwasanaethau pwysig.
Nodir ein gwasanaethau isod er mwyn helpu cyrff i ddeall beth sydd ar gael ac ymuno â ni.
Mae taflen ein gwasanaethau yn rhestru mwy o fanteision y band eang gwasanaeth cyhoeddus sydd ar gael i’r rhai sy’n gweithio gyda PSBA.
Gwasanaeth WAN (Wide Area Network)
Rhwydwaith cenedlaethol yn darparu cysylltedd diogel rhwng safleoedd at draws sector cyhoeddus Cymru.
Cysylltedd rhyngrwyd
Cysylltedd rhyngrwyd cynhwysedd uchel yn cefnogi gwasanaethau digidol, cydweithredu ac yn darparu mynediad diogel i systemau arlein.
Gwasanaethau diogelwch rhwydwaith
Gwasanaethau diogelwch yn cynnwys muriau gwarchod a hidlo cynnwys yn helpu i ddiogelu rhwydweithiau a data sector cyhoeddus.
Cymorth rhwydwaith
Cymorth technegol a strategol er helpu cyrff i gynllunio, datblygu a rheoli seilwaith rhwydwaith.
Gwasanaethau crwydro diogel
Cysylltedd dibynadwy yn darparu mynediad diogel i rwydweithiau a systemau ar gyfer staff yn gweithio mewn gwahanol leoliadau.
Gwasanaethau proffesiynol
Gwasanaeth ar gyfer pwy? Ein gwasanaethau yn helpu cyrff i gyflwyno atebion rhwydwaith ac ymgorffori gwasanaethau PSBA o fewn eu seilwaith. Buddion allweddol Nodweddion allweddol Mwy o wybodaeth Gwasanaethau cysylltiedig
Case Study Spotlight
Ysgol Borderbrook
Mae cysylltedd FTTP wedi cynyddu’r cyflymder hyd at 150 gwaith ac erbyn hyn mae’r athrawon a disgyblion yn gallu defnyddio platfformau dysgu arlein yn fwy effeithiol. Yr Her Yn y gorffennol roedd yr ysgol yn dibynnu ar gysylltiad rhyngrwyd 0.5 Mbps, gyda’r cysylltiad araf yn rhwystro gwaith athrawon oedd yn ceisio defnyddio adnoddau arlein mewn
CYSYLLTU Â NI
Oes oes diddordeb gan eich corff mewn ymuno â PSBA neu ddysgu mwy am ein gwasanaethau, anfonwch ebost at PSBA.new.connection.enquiries@bt.com a bydd aelod o’r tîm yn cysylltu â chi.