Cynghorau

Supporting local authorities with reliable connectivity for services, staff and community infrastructure.

Mae awdurdodau lleol yn darparu amrediad eang o wasanaethau, yn cynnwys tai, cynllunio, addysg, gwasanaethau amgylcheddol a chymorth cymunedol. Yn y dyfodol byddant yn dibynnu’n fwyfwy ar seilwaith digidol dibynadwy er galluogi staff i ddefnyddio systemau, er cydweithredu â phartneriaid a darparu gwasanaethau ar gyfer cymunedau.

PSBA yn darparu cysylltedd cyflym a diogel er helpu cynghorau ar draws y wlad i gynnal gwasanaethau cyhoeddus digidol.

Heriau mwyaf

Cynnal cysylltedd dibynadwy ar draws swyddfeydd cynghorau, safleoedd cymunedol a phartneriaid

Cefnogi staff yn gweithio ar aml safleoedd neu oddi cartref

Diogelu gwybodaeth sector cyhoeddus sensitif

Hwyluso cydweithredu â gwasanaethau iechyd, gwasanaethau brys ad adrannau’r llywodraeth

Cynnal gwasanaethau digidol ar gyfer dinasyddion

Cefnogi cynghorau

Byddwn yn darparu cysylltedd diogel a chadarn er galluogi cynghorau i gysylltu swyddfeydd, staff a systemau drwy rwydwaith cenedlaethol.

Wrth ddarparu mynediad diogel ar draws aml safleoedd, byddwn yn helpu staff i weithio’n fwy effeithiol ar draws adeiladau cyngor a phartner gyrff. Bydd hefyd yn cefnogi cydweithredu gyda gwasanaethau iechyd, timau gofal cymdeithasol a phartneriaid sector cyhoeddus eraill.

Gwasanaethau cysylltiedig

Gwasanaeth WAN (Wide Area Network)

Rhwydwaith cenedlaethol yn darparu cysylltedd diogel rhwng safleoedd at draws sector cyhoeddus Cymru.

DYSGU MWY

Gwasanaethau crwydro diogel

Cysylltedd dibynadwy yn darparu mynediad diogel i rwydweithiau a systemau ar gyfer staff yn gweithio mewn gwahanol leoliadau.

DYSGU MWY
Big data. Information concept. 3D render

Gwasanaethau diogelwch rhwydwaith

Gwasanaethau diogelwch yn cynnwys muriau gwarchod a hidlo cynnwys yn helpu i ddiogelu rhwydweithiau a data sector cyhoeddus.

DYSGU MWY

Case Study Spotlight

Ysgol Borderbrook

Mae cysylltedd FTTP wedi cynyddu’r cyflymder hyd at 150 gwaith ac erbyn hyn mae’r athrawon a disgyblion yn gallu defnyddio platfformau dysgu arlein yn fwy effeithiol. Yr Her Yn y gorffennol roedd yr ysgol yn dibynnu ar gysylltiad rhyngrwyd 0.5 Mbps, gyda’r cysylltiad araf yn rhwystro gwaith athrawon oedd yn ceisio defnyddio adnoddau arlein mewn

Read full case study

PSBA Roaming wedi galluogi gweithwyr yr awdurdod iechyd a’r cyngor i fynd ar eu rhwydwaith heb unrhyw broblemau. Mae hwyluso gwaith mewn amryw leoliadau wedi gwella cynhyrchiant rhwng gwasanaethau cymdeithasol a’r bwrdd iechyd. Gan wella hyblygrwydd a mynediad i ddata hanfodol heb beryglu diogelwch.

Cyngor Sir Ynys Môn

Goblygiadau ymarferol

Staff y cyngor yn gallu cysylltu â systemau yn ddiogel wrth weithio mewn amryw swyddfeydd, safleoedd a lleoliadau partner gyrff.

Cysylltedd dibynadwy yn cefnogi cydweithredu rhwng cynghorau a chyrff sector cyhoeddus eraill. Dinasyddion yn elwa o wasanaethau digidol eu cyngor, yn cynnwys mynediad i wybodaeth a gwasanaethau arlein.

Camau nesaf

Cysylltwch â’r tîm i drafod anghenion cysylltedd eich corff. Gallwch hefyd brofi ein gwasanaethau neu ddarllen enghreifftiau o gyrff eraill ar draws y wlad sy’n elwa o’r rhaglen.