GIG Cymru a byrddau iechyd

Bydd cyrff gofal iechyd yn dibynnu ar seilwaith digidol dibynadwy wrth edrych ar ôl cleifion. Ac ysbytai, meddygfeydd a gwasanaethau gofal iechyd cymunedol yn dibynnu ar systemau digidol wrth wirio gwybodaeth glinigol, cydlynu gwasanaethau a chefnogi cydweithredu.

Mae rhaglen PSBA yn darparu cysylltedd cyflym a diogel er cefnogi gwasanaethau gofal iechyd ar draws y wlad.

Heriau mwyaf

Diogelu data cleifion sensitif

Cynnal mynediad dibynadwy i systemau clinigol mewn ysbytai a meddygfeydd

Cysylltu ysbytai, gwasanaethau gofal cymunedol a phartner gyrff

Cefnogi gweithwyr gofal iechyd symudol

Cefnogi gofal iechyd

Byddwn yn darparu cysylltedd diogel er galluogi cyrff gofal iechyd i gysylltu â systemau clinigol a rhannu gwybodaeth yn ddiogel.

Wrth gysylltu cyrff gofal iechyd ar rwydwaith cenedlaethol, byddwn yn helpu staff i ddefnyddio systemau ar draws ysbytai, meddygfeydd a safleoedd gofal cymunedol. Mae’r seilwaith digidol yn cefnogi cydweithredu rhwng darparwyr gofal iechyd ac yn gwella mynediad i wasanaethau digidol.

Gwasanaethau cysylltiedig

Gwasanaeth WAN (Wide Area Network)

Rhwydwaith cenedlaethol yn darparu cysylltedd diogel rhwng safleoedd at draws sector cyhoeddus Cymru.

DYSGU MWY

Gwasanaethau crwydro diogel

Cysylltedd dibynadwy yn darparu mynediad diogel i rwydweithiau a systemau ar gyfer staff yn gweithio mewn gwahanol leoliadau.

DYSGU MWY
Big data. Information concept. 3D render

Gwasanaethau diogelwch rhwydwaith

Gwasanaethau diogelwch yn cynnwys muriau gwarchod a hidlo cynnwys yn helpu i ddiogelu rhwydweithiau a data sector cyhoeddus.

DYSGU MWY

Case Study Spotlight

Ysgol Borderbrook

Mae cysylltedd FTTP wedi cynyddu’r cyflymder hyd at 150 gwaith ac erbyn hyn mae’r athrawon a disgyblion yn gallu defnyddio platfformau dysgu arlein yn fwy effeithiol. Yr Her Yn y gorffennol roedd yr ysgol yn dibynnu ar gysylltiad rhyngrwyd 0.5 Mbps, gyda’r cysylltiad araf yn rhwystro gwaith athrawon oedd yn ceisio defnyddio adnoddau arlein mewn

Read full case study

Gynt, nid oeddwn yn gallu ymateb yn gyflym gyda gwasanaeth rhyngrwyd 4 Mbps… Ond mae gwasanaeth HomeWorker wedi gwella’r sefyllfa, gydag amserau mewngofnodi yn llai na dwy funud erbyn hyn.

Iain Platt
Pensaer Rhwydwaith, Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr

Goblygiadau ymarferol

Staff gofal iechyd yn gallu cysylltu â systemau clinigol yn ddiogel pan fyddant yn gweithio mewn ysbytai, meddygfeydd, lleoliadau gofal cymunedol neu wrth deithio.

Cysylltedd dibynadwy yn cefnogi gwasanaethau gofal iechyd digidol megis cofnodion cleifion a chyfathrebu rhwng timau gofal iechyd.

Camau nesaf

Cysylltwch â’r tîm i drafod anghenion cysylltedd eich corff. Gallwch hefyd brofi ein gwasanaethau neu ddarllen enghreifftiau o gyrff eraill ar draws y wlad sy’n elwa o’r rhaglen.