Gwasanaethau brys

Bydd gwasanaethau heddlu, tân ac ambiwlans yn dibynnu ar gysylltedd dibynadwy wrth ymateb i argyfyngau a chydlynu eu gwaith. Mae cysylltu’n ddiogel â systemau a rhwydweithiau cyfathrebu’n hanfodol yn ystod achosion brys a gwaith beunyddiol.

Mae PSBA yn darparu cysylltedd rhwydwaith sy’n cefnogi gwasanaethau brys ar draws y wlad.

Heriau mwyaf

Cynnal cysylltedd dibynadwy ar draws safleoedd gweithredu a gorsafoedd

Cynnal mynediad diogel i systemau gweithredu a data

Galluogi staff i ddefnyddio systemau wrth weithio ar draws safleoedd gwahanol

Diogelu gwybodaeth weithredu sensitif

Cefnogi gwasanaethau brys

Darparu cysylltedd diogel er cefnogi cyfathrebu a chydlynu gwaith ar draws y cyrff gwahanol.

Wrth gysylltu safleoedd gweithredu dros rwydwaith cenedlaethol, byddwn yn galluogi staff i ddefnyddio systemau yn ddiogel a chynnal cyfathrebu dibynadwy wrth ymateb i argyfyngau.

Gwasanaethau cysylltiedig

Gwasanaeth WAN (Wide Area Network)

Rhwydwaith cenedlaethol yn darparu cysylltedd diogel rhwng safleoedd at draws sector cyhoeddus Cymru.

DYSGU MWY

Gwasanaethau crwydro diogel

Cysylltedd dibynadwy yn darparu mynediad diogel i rwydweithiau a systemau ar gyfer staff yn gweithio mewn gwahanol leoliadau.

DYSGU MWY
Big data. Information concept. 3D render

Gwasanaethau diogelwch rhwydwaith

Gwasanaethau diogelwch yn cynnwys muriau gwarchod a hidlo cynnwys yn helpu i ddiogelu rhwydweithiau a data sector cyhoeddus.

DYSGU MWY

Case Study Spotlight

Ysgol Borderbrook

Mae cysylltedd FTTP wedi cynyddu’r cyflymder hyd at 150 gwaith ac erbyn hyn mae’r athrawon a disgyblion yn gallu defnyddio platfformau dysgu arlein yn fwy effeithiol. Yr Her Yn y gorffennol roedd yr ysgol yn dibynnu ar gysylltiad rhyngrwyd 0.5 Mbps, gyda’r cysylltiad araf yn rhwystro gwaith athrawon oedd yn ceisio defnyddio adnoddau arlein mewn

Read full case study

PSBA yn trosglwyddo data yn gyflym a dibynadwy am bris rhesymol, gyda chymorth tîm o arbenigwyr sy’n gallu taclo problemau.

Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru

Goblygiadau ymarferol

Timau gwasanaethau brys yn gallu cysylltu’n ddiogel â systemau gweithredu mewn gorsafoedd tân, safleoedd heddlu a lleoliadau gwasanaeth eraill.

Reliable connectivity helps emergency services maintain communication, share operational information and respond quickly during incidents.

Camau nesaf

Cysylltwch â’r tîm i drafod anghenion cysylltedd eich corff. Gallwch hefyd brofi ein gwasanaethau neu ddarllen enghreifftiau o gyrff eraill ar draws y wlad sy’n elwa o’r rhaglen.