Mae cyrff tai cymdeithasol yn darparu gwasanaethau tai ac yn cefnogi cymunedau ar draws y wlad, gan ddibynnu ar systemau digidol i reoli gwasanaethau tai, cyfathrebu gyda thenantiaid a chydweithio â phartneriaid sector cyhoeddus.
Mae PSBA yn darparu cysylltedd cyflym a diogel sy’n cefnogi cymdeithasau tai ar draws y wlad.
Heriau mwyaf

Cefnogi cyrff tai
Mae PSBA yn darparu cysylltedd cyflym a diogel sy’n cefnogi cymdeithasau tai ar draws y wlad ac yn hwyluso cysylltu â systemau digidol a chysylltu’n effeithiol â thenantiaid a phartneriaid.
Wrth gysylltu cyrff ar rwydwaith cenedlaethol, byddwn hefyd yn helpu cyrff i gydweithredu â chynghorau eraill a chyrff sector cyhoeddus eraill.
Gwasanaethau cysylltiedig
Gwasanaeth WAN (Wide Area Network)
Rhwydwaith cenedlaethol yn darparu cysylltedd diogel rhwng safleoedd at draws sector cyhoeddus Cymru.
Gwasanaethau crwydro diogel
Cysylltedd dibynadwy yn darparu mynediad diogel i rwydweithiau a systemau ar gyfer staff yn gweithio mewn gwahanol leoliadau.
Gwasanaethau diogelwch rhwydwaith
Gwasanaethau diogelwch yn cynnwys muriau gwarchod a hidlo cynnwys yn helpu i ddiogelu rhwydweithiau a data sector cyhoeddus.
Case Study Spotlight
Ysgol Borderbrook
Mae cysylltedd FTTP wedi cynyddu’r cyflymder hyd at 150 gwaith ac erbyn hyn mae’r athrawon a disgyblion yn gallu defnyddio platfformau dysgu arlein yn fwy effeithiol. Yr Her Yn y gorffennol roedd yr ysgol yn dibynnu ar gysylltiad rhyngrwyd 0.5 Mbps, gyda’r cysylltiad araf yn rhwystro gwaith athrawon oedd yn ceisio defnyddio adnoddau arlein mewn
Rhaid deud fy mod yn amheus am symud i PSBA yn y lle cyntaf am ei fod yn swnio’n rhy dda i fod yn wir. Roedd y pris yn is na’r cwmni blaenorol, ond byddem yn derbyn cynnydd yn ein lled band a chytundeb lefel gwasanaeth llawer gwell. Nid oedd angen poeni! Profodd yn newid positif iawn. Mae wedi hwyluso tyfu ein technoleg a buddsoddi mewn sectorau eraill.
Dyfrig Roberts
Arbenigwr Seilwaith, Grŵp Cynefin
Goblygiadau ymarferol
Cyrff tai yn cysylltu swyddfeydd a lleoliadau gwasanaeth yn ddiogel drwy rwydwaith dibynadwy.
Reliable connectivity supports collaboration between teams and enables housing providers to develop digital services for tenants and contractors.
Camau nesaf
Cysylltwch â’r tîm i drafod anghenion cysylltedd eich corff. Gallwch hefyd brofi ein gwasanaethau neu ddarllen enghreifftiau o gyrff eraill ar draws y wlad sy’n elwa o’r rhaglen.