PSBA HomeWorker Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr

Roedd cysylltiadau band eang personol araf yn rhwystro mynediad i systemau a chymorth technegol. Roedd gwasanaeth HomeWorker wedi darparu mynediad diogel i rwydwaith PSBA a gostwng amserau mewngofnodi o dros 20 munud i lai na 2 munud.

Her

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn gwasanaethu 678,000 o bobl ar draws y gogledd ac yn cyflogi dros 17,000 aelod staff. Mae llawer o’r staff yn gweithio mewn ardaloedd gwledig ble mae cysylltiadau band eang yn araf, gyda band eang eu cartrefi yn rhwystro mynediad i systemau GIG wrth geisio darparu gwasanaeth technegol all oriau.

Mewn rhai achosion, roedd mewngofnodi ar systemau yn cymryd dros 20 munud, gan rwystro ymateb i broblemau technegol. Roedd oedi fel hyn yn effeithio amserau adfer systemau ac yn bygwth effeithiolrwydd gwasanaethau.

Ateb

Archebwyd ein gwasanaeth HomeWorker er mwyn trefnu mynediad diogel i rwydwaith PSBA o gartrefi’r staff. Mae’r gwasanaeth yn creu cysylltiad penodol yn hytrach na ddibynnu ar rwydweithiau band eang personol, sy’n galluogi staff i gysylltu â systemau yn gyflym a dibynadwy wrth weithio gartref.

Mae amserau mewngofnodi wedi gostwng o dros 20 munud i oddeutu 2 funud, gyda mynediad cyflymach yn hwyluso ymateb yn gyflymach a darparu cymorth technegol cyflym tu allan i oriau gwaith arferol.

Sector: Addysg
Problem: Security and Reliability
Ateb: Gwasanaeth Wi-Fi cyhoeddus PSBA
Canlyniad: Strengthened Security


Yn y gorffennol, nid oeddwn yn gallu darparu cymorth yn syth tu allan i oriau gwaith gyda chysylltiad rhyngrwyd 4 Mpbs. Gan fwyaf, os oedd angen gwaith sylweddol, byddai’n achosi oedi o 30 i 35 munud a gallai hynny effeithio gofal cleifion. Yn ddiweddar roedd 3 ysbyty wedi wynebu problemau ffôn, gyda’r staff yn gorfod ateb galwadau yn hytrach na gwneud eu gwaith arferol. Cymrodd hynny oddeutu 1 awr oherwydd y gwasanaeth band eang araf. Roedd yn arfer cymryd dros 20 munud i fewngofnodi ond mae gwasanaeth HomeWorker wedi gostwng hynny i 2 funud.

Iain Platt

Pensaer Rhwydwaith
Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr

Gwasanaethau

Cysylltedd rhyngrwyd

Cysylltedd rhyngrwyd cynhwysedd uchel yn cefnogi gwasanaethau digidol, cydweithredu ac yn darparu mynediad diogel i systemau arlein.

DYSGU MWY

Enghreifftiau

CYSYLLTU Â NI

Oes oes diddordeb gan eich corff mewn ymuno â PSBA neu ddysgu mwy am ein gwasanaethau, anfonwch ebost at PSBA.new.connection.enquiries@bt.com a bydd aelod o’r tîm yn cysylltu â chi.