Prifysgol Aberystwyth

Y Brifysgol wedi cyflwyno gwasanaeth Wi-Fi cyhoeddus PSBA er mwyn darparu cysylltedd diogel a dibynadwy ar gyfer myfyrwyr, staff ac ymwelwyr. Wrth rannu’r rhwydweithiau cyhoeddus a chorfforaethol, cryfhawyd mesurau diogelwch wrth sicrhau mynediad cyson i adnoddau arlein ar draws y campws. Mae’r gwasanaeth hefyd yn helpu’r tîm technoleg gwybodaeth i ganolbwyntio ar flaenoriaethau strategol yn hytrach na‘r rhwydwaith gwesteion.

Her

Roedd y Brifysgol angen gwasanaeth cost effeithiol a dibynadwy i gymryd lle’r rhwydwaith blaenorol ar gyfer gwesteion. Mae’r brifysgol yn gweithredu dros ddau gampws ac yn croesawu miloedd o ymwelwyr bob blwyddyn wrth fynychu cynadleddau, digwyddiadau a gweithgareddau ymchwil. Roedd rhaid darparu cysylltiad rhyngrwyd ar gyfer yr ymwelwyr a diogelu’r systemau corfforaethol ar yr un pryd.

Roedd angen gwasanaeth yn gallu cynnal galw mawr a gwneud hynny’n ddiogel. Yn ogystal roedd angen diogelu gwybodaeth sensitif a systemau mewnol rhag ymyrraeth gan systemau allanol.

Ateb

Cyflwynwyd gwasanaeth Wi-Fi cyhoeddus PSBA ar draws safleoedd y brifysgol er mwyn darparu mynediad diogel i’r rhyngrwyd ar gyfer myfyrwyr, staff ac ymwelwyr. Mae’r gwasanaeth yn gwbl ar wahân i wasanaeth corfforaethol y brifysgol ac wedi cryfhau mesurau diogelwch ac felly’n diogelu data cyfrinachol a systemau mewnol.

Mae’r rhwydwaith yn darparu cysylltedd dibynadwy ar gyfer nifer fawr o ddefnyddwyr yn cysylltu ag adnoddau arlein ar draws y campws. Rheolir y gwasanaeth gan PSBA, felly nid yw tîm technoleg gwybodaeth y brifysgol bellach angen rheoli’r rhwydwaith gwesteion yn uniongyrchol.

Sector: Addysg
Problem: Security and Reliability
Ateb: Public Access Wi-Fi Service
Outcome: Strengthened Security

Gwasanaethau

Cysylltedd rhyngrwyd

Cysylltedd rhyngrwyd cynhwysedd uchel yn cefnogi gwasanaethau digidol, cydweithredu ac yn darparu mynediad diogel i systemau arlein.

DYSGU MWY
Big data. Information concept. 3D render

Gwasanaethau diogelwch rhwydwaith

Gwasanaethau diogelwch yn cynnwys muriau gwarchod a hidlo cynnwys yn helpu i ddiogelu rhwydweithiau a data sector cyhoeddus.

DYSGU MWY

Related Case Studies

Contact Us

If your organisation is interested in joining PSBA or learning more about available services, please e-mail PSBA.new.connection.enquiries@bt.com and a member of our dedicated team will be in touch.