Roedd gwasanaethau ar draws y wlad angen cysylltedd cyflym yn ystod y pandemig er mwyn cefnogi ysbytai dros dro, profi cyfleusterau a gweithio o gartref. Sefydlwyd timau ymateb er mwyn trefnu gwaith uwchraddio rhwydweithiau a chefnogi adnoddau cydweithredu. Derbyniwyd 108 cais am gymorth cysylltedd er helpu cyrff i gynnal gwasanaethau hanfodol.
Yr Her
Roedd y pandemig coronafeirws wedi creu nifer o heriau ar gyfer gwasanaethau cyhoeddus ar draws y wlad, gyda chyrff iechyd angen cysylltedd dibynadwy i gefnogi cyfleusterau newydd ac arferion gwaith gwahanol. Roedd ysbytai dros dro a chanolfannau profi angen cysylltiadau rhwydwaith yn gyflym er mwyn gweithredu’n effeithiol.
Yn ogystal, roedd llawer o staff angen gweithio o gartref gyda systemau digidol ac arfau cydweithredu, gan gynyddu’r galw am gysylltiadau newydd mewn sawl corff.
Yr ateb
Sefydlwyd timau ymateb penodol i reoli ceisiadau brys am gysylltedd yn ystod y pandemig. Gosodwyd cysylltiadau rhyngrwyd newydd mewn ysbytai dros dro a chyfleusterau gofal iechyd ar draws y wlad. Gosodwyd linc rhyngrwyd 1Gb o fewn 48 awr ym mhencadlys Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro er mwyn cefnogi gweithwyr i ffwrdd o’u lleoliadau gwaith arferol.
Darparwyd cysylltedd ychwanegol i gefnogi safleoedd profi a chyfleusterau brys, gan ymateb I 108 cais am gysylltedd yn ystod COVID-19.
Sector: Addysg
Problem: Security and Reliability
Ateb: Public Access Wi-Fi Service
Outcome: Strengthened Security
Canlyniadau a buddion
Mae PSBA yn darparu gwasanaethau cyflym a dibynadwy a llawer o’n cyrff sector cyhoeddus wedi diolch tîm PSBA am eu hymdrechion yn ystod y cyfnod heriol hwn.
Dean Rust
Rheolwr Contract PSBA
Llywodraeth Cymru
Gwasanaethau
Cysylltedd rhyngrwyd
Cysylltedd rhyngrwyd cynhwysedd uchel yn cefnogi gwasanaethau digidol, cydweithredu ac yn darparu mynediad diogel i systemau arlein.
Gwasanaethau crwydro diogel
Cysylltedd dibynadwy yn darparu mynediad diogel i rwydweithiau a systemau ar gyfer staff yn gweithio mewn gwahanol leoliadau.
Enghreifftiau
CYSYLLTU Â NI
Oes oes diddordeb gan eich corff mewn ymuno â PSBA neu ddysgu mwy am ein gwasanaethau, anfonwch ebost at PSBA.new.connection.enquiries@bt.com a bydd aelod o’r tîm yn cysylltu â chi.