Roedd cynnydd yn y defnydd o blatfformau dysgu digidol wedi galw am wella hidlo’r rhyngrwyd a pherfformiad y rhwydwaith. Mae gwasanaeth hidlo WebSafe wedi gwella dibynadwyedd a darparu mynediad diogel i adnoddau addysg arlein.
Yr Her
Mae’r Cyngor yn rheoli rhwydwaith sy’n cefnogi dros 350 safle ac oddeutu 51,000 disgybl mewn 127 ysgol. Roedd hidlo’r rhyngrwyd ar gyfer ysgolion yn arfer bod yn gyfrifoldeb rhwydwaith y cyngor lleol. Felly, roedd traffig yn gorfod pasio drwy ganolfan Neuadd y Cyngor Sir cyn mynd ar y rhyngrwyd. Roedd hynny’n achosi tagfeydd, yn arbennig yn ystod cyfnodau brig ac roedd cynnydd mewn platfformau dysgu digidol wedi codi defnydd o’r rhyngrwyd.
Yr ateb
Cyflwynwyd gwasanaeth hidlo WebSafe ar gyfer y Cyngor, gan ailgyfeirio traffig rhyngrwyd i’r NGD (Next Generation Data Centre), Casnewydd yn lle drwy Neuadd y Sir. Mae hynny wedi lleihau nifer y tagfeydd traffig a gwella gwasanaethau’r ysgolion. Yn ogystal, mae wedi gwella mesurau diogelwch drwy gyfrwng hidlo amser real a monitro traffig rhyngrwyd. Erbyn hyn mae’r ysgolion yn elwa o gysylltiadau mwy dibynadwy a hyblyg.
Sector: Addysg
Problem: Security and Reliability
Ateb: Public Access Wi-Fi Service
Outcome: Strengthened Security
Canlyniadau a buddion
Mae cymdeithas yn troi’n ddigidol, felly rhaid i wasanaethau cyhoeddus adlewyrchu hynny a sicrhau bod staff a defnyddwyr eraill yn gallu defnyddio rhwydwaith cyfathrebu diogel a dibynadwy. Rydym eisoes wedi elwa o gael un rhwydwaith canolog – gan ostwng gwaith beunyddiol staff technoleg gwybodaeth mewn swyddfeydd unigol. Mae PSBA wedi’n galluogi i ddarparu platfform digidol o safon ar gyfer pob defnyddiwr a’u cymell i gydweithio rhwng cyrff.
Formerly Phil Bear
Pennaeth Technoleg Gwybodaeth
Cyngor Caerdydd
Gwasanaethau
Cysylltedd rhyngrwyd
Cysylltedd rhyngrwyd cynhwysedd uchel yn cefnogi gwasanaethau digidol, cydweithredu ac yn darparu mynediad diogel i systemau arlein.
Related Case Studies
CYSYLLTU Â NI
Oes oes diddordeb gan eich corff mewn ymuno â PSBA neu ddysgu mwy am ein gwasanaethau, anfonwch ebost at PSBA.new.connection.enquiries@bt.com a bydd aelod o’r tîm yn cysylltu â chi.