Cyngor Gwynedd

Yn aml bydd staff yn gweithio mewn adeiladau cyrff cyhoeddus eraill ac angen cysylltiad diogel â’u systemau. Mae gwasanaethau Roaming a MOSS (Multiple Occupancy Site Service) wedi galluogi staff i gysylltu’n ddiogel ar draws sawl lleoliad a rennir gyda chyrff eraill.

Yr Her

Mae Cyngor Gwynedd yn cyflogi oddeutu 6,500 staff ac yn cynnal rhwydwaith ar draws 229 safle Yn aml bydd staff yn mynychu cyfarfodydd ar leoliadau cyrff cyhoeddus eraill. Yn y gorffennol, nid oeddent y gallu cysylltu â rhwydwaith eu swyddfa yn ddiogel wrth weithio ar safleoedd eraill.

Roedd hynny’n cyfyngu eu gallu i ddefnyddio systemau a chwblhau tasgau o bell. Weithiau, roedd rhaid i staff fynd yn ôl i’w swyddfeydd i ddiweddaru cofnodion.

Yr ateb

Cyflwynwyd PSBA Roaming er mwyn galluogi staff i gysylltu’n ddiogel â’u rhwydwaith wrth weithio ar safleoedd eraill. Yn ogystal, cyflwynwyd gwasanaeth MOSS (Multiple Occupancy Site Service) er mwyn rhannu un cysylltiad rhwng cyrff. Erbyn hyn, mae staff yn gallu cysylltu’n ddidrafferth â systemau wrth weithio mewn lleoliadau gwahanol.

Mae hynny’n cefnogi cydweithredu rhwng cynghorau, ysgolion, a chyrff iechyd, gyda’r cysylltedd gwell hefyd yn gwella cynhyrchiant staff ac wedi gostwng teithiau gwaith.

Sector: Addysg
Problem: Security and Reliability
Ateb: Public Access Wi-Fi Service
Outcome: Strengthened Security

Mae gwasanaethau PSBA wedi galluogi ein staff i gydweithio â chyrff eraill, gyda staff allanol yn ni cysylltu â’r rhwydwaith o’n safleoedd a gorffen tasgau yn y fan a’r lle, yn hytrach na dychwelyd i’w swyddfeydd. Ar ben hynny, mae staff yn gallu cysylltu’n ddiogel yn yr un modd o safleoedd arall yr awdurdod sy’n cynnal gwasanaeth MOSS. Mae’r staff yn elwa o ddefnyddio gwahanol leoliadau, sy’n helpu i ostwng ein costau. Yn ogystal, mae ein tîm rhwydwaith yn gweithio’n well wrth dreulio llai o amser yn rheoli gwasanaethau rhwydwaith ac ymateb i geisiadau gan wahanol gyrff ar draws y sir.

Ian Roberts

Arweinydd Technegol
Cyngor Gwynedd

Gwasanaethau

Gwasanaethau crwydro diogel

Cysylltedd dibynadwy yn darparu mynediad diogel i rwydweithiau a systemau ar gyfer staff yn gweithio mewn gwahanol leoliadau.

DYSGU MWY

Related Case Studies

CYSYLLTU Â NI

Oes oes diddordeb gan eich corff mewn ymuno â PSBA neu ddysgu mwy am ein gwasanaethau, anfonwch ebost at PSBA.new.connection.enquiries@bt.com a bydd aelod o’r tîm yn cysylltu â chi.