Roedd Meddygfa Cadwgan, Conwy angen cysylltedd cyflymach er mwyn cefnogi systemau gofal iechyd digidol a rheoli cofnodion cleifion yn effeithiol. Darparwyd band eang ffeibr drwy’r rhaglen Rhwydwaith Ffeibr Cyflawn Lleol, gan ddarparu cysylltiad dibynadwy â systemau clinigol. Mae’r drefn newydd yn cefnogi gwasanaethau dros 12,000 o gleifion ac yn hwyluso mynediad cyflymach i systemau ar gyfer staff.
Her
Mae’r feddygfa yn gwasanaethu dros 12,000 o gleifion yn yr ardal. Roedd staff yn gorfod ymdopi â rhwydwaith araf oedd yn effeithio tasgau clinigol a gweinyddol, a llwytho gwybodaeth, cysylltu â systemau a rheoli cofnodion digidol yn cymryd gormod o amser.
Roedd y staff yn delio gyda llawer o lythyrau gan ysbytai a chofnodion cleifion bob dydd, oedd roedd hynny’n anodd oherwydd y cysylltedd araf. Felly, penderfynodd y feddygfa bod angen cysylltedd mwy cyflym a dibynadwy er cefnogi systemau digidol a gwaith beunyddiol.
Ateb
Cysylltwyd y feddygfa â rhwydwaith band eang ffeibr cyflym drwy’r rhaglen Rhwydwaith Ffeibr Cyflawn Lleol. Mae’r cysylltiad newydd yn cynnig perfformiad cyflymach a gwasanaeth mwy dibynadwy. Erbyn hyn, mae staff yn gallu llwytho gwybodaeth a chysylltu â systemau clinigol yn fwy effeithiol.
Mae’r cysylltedd gwell hefyd yn cefnogi gwasanaethau fideo gynadledda a rhannu lluniau gyda chleifion, a chysylltu’n gyflym â systemau wedi gwella cynhyrchiant a gostwng oedi wrth gyflawni tasgau gweinyddol a chlinigol.
Sector: Addysg
Problem: Security and Reliability
Ateb: Gwasanaeth Wi-Fi cyhoeddus PSBA
Canlyniad: Strengthened Security
Canlyniadau a buddion
Byddwn yn digalonni pan fydd cyflymderau cysylltu yn araf, a phopeth yn cymryd gormod o amser. Mae’r gwasanaeth cyflymach wedi codi ysbryd a brwdfrydedd pawb. Byddaf yn siarad yn aml gyda meddygon sy’n teimlo’n rhwystredig gyda’u cysylltedd araf ac yn edrych ymlaen at gael gwasanaeth tebyg i ni, yn arbennig mewn ardaloedd gwledig.
Dr Dylan Parry
Uwch Bartner,
Meddygfa Cadwgan
Gwasanaethau
Cysylltedd rhyngrwyd
Cysylltedd rhyngrwyd cynhwysedd uchel yn cefnogi gwasanaethau digidol, cydweithredu ac yn darparu mynediad diogel i systemau arlein.
Related Case Studies
CYSYLLTU Â NI
Oes oes diddordeb gan eich corff mewn ymuno â PSBA neu ddysgu mwy am ein gwasanaethau, anfonwch ebost at PSBA.new.connection.enquiries@bt.com a bydd aelod o’r tîm yn cysylltu â chi.