Roedd angen cysylltedd dibynadwy er mwyn cefnogi cydweithredu rhwng timau a darparu gwasanaethau digidol. Roedd ein rhwydwaith newydd a gwasanaethau llais SIP (Session Initiation Protocol) wedi cryfhau cysylltedd a gostwng costau ffôn.
Yr Her
Mae cymdeithas tai Grŵp Cynefin yn rheoli dros 4,800 cartref yn y Gogledd a gogledd Powys, yn cynnal 21 swyddfa ac yn cyflogi mwy na 200 aelod staff. Roedd angen cysylltedd dibynadwy er mwyn cefnogi cydweithredu rhwng timau a darparu gwasanaethau digidol.
Roedd hen systemau ffôn llais hefyd yn creu costau ychwanegol, felly penderfynwyd bod angen rhwydwaith newydd fyddai’n gallu cefnogi cydweithredu a gwasanaethau digidol.
Yr ateb
Cysylltwyd safleoedd y corff drwy rwydwaith PSBA, gan ddarparu cysylltedd cyflym rhwng y swyddfeydd. Yn ogystal cyflwynwyd gwasanaethau llais newydd gyda phecyn SIP (Session Initiation Protocol).
O ganlyniad nid oedd angen llinellau ISDN, gan ostwng costau gweithredu a galluogi staff technoleg gwybodaeth i ganolbwyntio ar flaenoriaethau erial yn lle rheoli cysylltedd y rhwydwaith.
Sector: Addysg
Problem: Security and Reliability
Ateb: Public Access Wi-Fi Service
Outcome: Strengthened Security
Canlyniadau a buddion
Rhaid dweud fy mod yn amau’r penderfyniad i symud i PSBA yn y lle cyntaf am ei fod yn swnio’n rhy dda. Roedd y pris yn is, yn cynnig lled band uwch a gwasanaeth llawer gwell, gyda chytundeb lefel gwasanaeth o safon uchel. Profodd yn newid positif iawn, gan roi cyfle i dyfu technoleg newydd a buddsoddi. Mae cynlluniau cyffrous gan PSBA ar gyfer y dyfodol, fydd yn helpu i wneud Grŵp Cynefin hyd yn oed yn fwy llwyddiannus.
Dyfrig Roberts
Arebenigwr Seilwaith
Grŵp Cynefin
Gwasanaethau
Gwasanaeth WAN (Wide Area Network)
Rhwydwaith cenedlaethol yn darparu cysylltedd diogel rhwng safleoedd at draws sector cyhoeddus Cymru.
Cysylltedd rhyngrwyd
Cysylltedd rhyngrwyd cynhwysedd uchel yn cefnogi gwasanaethau digidol, cydweithredu ac yn darparu mynediad diogel i systemau arlein.
Related Case Studies
CYSYLLTU Â NI
Oes oes diddordeb gan eich corff mewn ymuno â PSBA neu ddysgu mwy am ein gwasanaethau, anfonwch ebost at PSBA.new.connection.enquiries@bt.com a bydd aelod o’r tîm yn cysylltu â chi.