Mae cysylltedd dibynadwy yn hanfodol er cefnogi systemau cyfathrebu a threfniadau hyfforddi, gyda gwaith wedi uwchraddio’r rhwydwaith a hwyluso rhannu gwybodaeth ddigidol ar draws y gwasanaeth.
Yr Her
Mae’r Gwasanaeth yn diogelu oddeutu 678,000 o drigolion ar draws ardal o 2,500 milltir sgwâr ac yn cynnal 49 safle yn cynnwys 44 gorsaf dân. Gyda llawer o’r gorsafoedd mewn ardaloedd gwledig, roedd yn anodd trefnu cysylltedd cyflym.
Roedd cysylltiadau araf yn effeithio systemau hyfforddi a dosbarthu gwybodaeth weithredu. Roedd rhaid cael cysylltedd dibynadwy er mwyn trosglwyddo newyddion a gwybodaeth i weithwyr yn gyflym.
Yr ateb
Darparwyd cysylltedd gwell wrth ddefnyddio cymysgedd o dechnolegau. Erbyn hyn mae gorsafoedd yn elwa o gysylltiadau mwy cyflym a dibynadwy, gyda’r rhwydwaith newydd yn gallu dosbarthu data digidol i dros 100 peiriant tân.
Yn ogystal mae terfynellau data symudol yn gallu derbvyn negeseuon wrth ymateb I achosion tân.
Sector: Addysg
Problem: Security and Reliability
Ateb: Public Access Wi-Fi Service
Outcome: Strengthened Security
Canlyniadau a buddion
PSBA yn trosglwyddo data yn gyflym a dibynadwy am bris rhesymol, gyda chymorth tîm o arbenigwyr sy’n gallu taclo problemau.
Steve Morris
Rheolwr Technoleg Gwybodaeth
Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru
Gwasanaethau
Gwasanaeth WAN (Wide Area Network)
Rhwydwaith cenedlaethol yn darparu cysylltedd diogel rhwng safleoedd at draws sector cyhoeddus Cymru.
Gwasanaethau crwydro diogel
Cysylltedd dibynadwy yn darparu mynediad diogel i rwydweithiau a systemau ar gyfer staff yn gweithio mewn gwahanol leoliadau.
Related Case Studies
CYSYLLTU Â NI
Oes oes diddordeb gan eich corff mewn ymuno â PSBA neu ddysgu mwy am ein gwasanaethau, anfonwch ebost at PSBA.new.connection.enquiries@bt.com a bydd aelod o’r tîm yn cysylltu â chi.