Roedd darparu cysylltedd dibynadwy mewn lleoliadau gwledig wedi profi’n anodd, ond roedd uwchraddiadau ffeibr wedi cynyddu lled band y gwasanaeth a gostwng costau, yn cynnwys un safle ble roedd y costau blynyddol wedi gostwng o £12,000 i £800.
Her
Mae’r Bwrdd yn darparu gwasanaethau iechyd ar gyfer oddeutu 384,000 o bobl ar draws sir Gâr, Ceredigion a sir Benfro. Mae’n cynnal pedwar ysbyty mawr a thua 50 safle cymunedol. Roedd yr ardal wledig wedi achosi anawsterau wrth geisio darparu cysylltedd cyflym drwy gyfrwng dulliau traddodiadol.
Roedd rhai safleoedd yn ymdopi gyda chysylltiadau araf iawn, oedd yn effeithio mynediad i systemau digidol ac roedd angen gwella’r cysylltedd er mwyn cefnogi gwasanaethau digidol ar draws y rhwydwaith.
Ateb
Datblygwyd gwaith uwchraddio drwy raglen CNC (Core Network Change) er mwyn gwella cysylltedd ar draws y safleoedd, gan gyflwyno cysylltedd ffeibr mewn sawl lleoliad. Roedd un ganolfan gymunedol wedi newid o gysylltiad 2 Mbps yn costio £12,000 y flwyddyn i gysylltiad FTTC 20 Mbps yn costio tua £800 y flwyddyn.
Mae cysylltedd cyflymach wedi hwyluso trosglwyddo ffeiliau clinigol mawr a’r rhwydwaith cyflymach hefyd yn cefnogi fideo gynadledda, gan ostwng y galw am deithio rhwng safleoedd.
Sector: Addysg
Problem: Security and Reliability
Ateb: Public Access Wi-Fi Service
Outcome: Strengthened Security
Canlyniadau a buddion
PSBA wedi hwyluso agor cyfleusterau newydd a chyflwyno gwasanaethau digidol ar ein 50 safle yn y canolbarth a gorllewin – na fyddai wedi digwydd heb PSBA.
John Hackett
Rheolwr Gwasnaaethau Seilwaith
Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda
Gwasanaethau
Cysylltedd rhyngrwyd
Cysylltedd rhyngrwyd cynhwysedd uchel yn cefnogi gwasanaethau digidol, cydweithredu ac yn darparu mynediad diogel i systemau arlein.
Gwasanaethau crwydro diogel
Cysylltedd dibynadwy yn darparu mynediad diogel i rwydweithiau a systemau ar gyfer staff yn gweithio mewn gwahanol leoliadau.
Related Case Studies
CYSYLLTU Â NI
Oes oes diddordeb gan eich corff mewn ymuno â PSBA neu ddysgu mwy am ein gwasanaethau, anfonwch ebost at PSBA.new.connection.enquiries@bt.com a bydd aelod o’r tîm yn cysylltu â chi.