Rhwydwaith PSBA yn diogelu’r cyhoedd

Mae Heddlu Dyfed-Powys yn gwasanaethu dros hanner miliwn o bobl ar draws ardal heddlu fwyaf Cymru a Lloegr. Roedd cynnydd yn y defnydd o fideos o gamerâu ar ddillad a systemau CCTV wedi mynnu gwasanaeth band eang gwell, gydag uwchraddiadau yn cynyddu’r lled band dros 100 gwaith, gan hwyluso trosglwyddo ffeiliau mawr yn gyflym.

Yr Her

Mae Heddlu Dyfed-Powys yn gwasanaethu dros 500,000 o bobl ar draws ardal heddlu fwyaf Cymru a Lloegr. Roedd cynnydd yn y defnydd o fideos o gamerâu ar ddillad a systemau CCTV wedi mynnu gwasanaeth band eang gwell, gydag uwchraddiadau yn cynyddu’r lled band dros 100 gwaith, gan hwyluso trosglwyddo ffeiliau mawr yn gyflym. Roedd llwytho fideos yn araf, gan olygu bod swyddogion yn treulio gormod amser yn trosglwyddo ffeiliau.

O ganlyniad, nid oedd digon o amser gan swyddogion i weithio yn eu cymunedau. Roedd rhaid gwella perfformiad y rhwydwaith.

Yr ateb

Datblygwyd cylchedau’r rhwydwaith er mwyn gwella cysylltedd, gan godi cyflymder y cysylltiadau o 0.5 Mbps i 100 Mbps, gan hwyluso llwytho a throsglwyddo fideos o gamerâu dillad a gwella systemau CCTV.

Erbyn hyn, mae swyddogion yn gallu llwytho tystiolaeth leol yn gyflym ar ôl dychwelyd i orsafoedd heddlu. Mae’r seilwaith gwell hefyd yn cefnogi trosglwyddo fideos i bartneriaid o fewn y gyfundrefn cyfiawnder troseddol.

Sector: Addysg
Problem: Security and Reliability
Ateb: Public Access Wi-Fi Service
Outcome: Strengthened Security

Mae buddsoddi i wella’r rhwydwaith wedi’n helpu i wneud ein gwaith yn well, ac i fod yn rhan o’r NEP (National Enabling Programme). Pan fydd angen, gallwn ymateb yn gyflym gan wybod bod yr adnoddau gennym i wneud y gwaith yn iawn o fewn amgylchedd sy’n newid gydol yr amser. Mae cymorth PSBA yn hanfodol – wrth alluogi ein swyddogion i gysylltu’n ddiogel a chyson â’n rhwydwaith pan fyddant i ffwrdd o’u lleoliadau arferol.

Mark Hall

Uwch Reolwr Technoleg Gwybodaeth Gweithredol
Heddlu Dyfed-Powys

Gwasanaethau

Gwasanaeth WAN (Wide Area Network)

Rhwydwaith cenedlaethol yn darparu cysylltedd diogel rhwng safleoedd at draws sector cyhoeddus Cymru.

DYSGU MWY

Cysylltedd rhyngrwyd

Cysylltedd rhyngrwyd cynhwysedd uchel yn cefnogi gwasanaethau digidol, cydweithredu ac yn darparu mynediad diogel i systemau arlein.

DYSGU MWY

Related Case Studies

CYSYLLTU Â NI

Oes oes diddordeb gan eich corff mewn ymuno â PSBA neu ddysgu mwy am ein gwasanaethau, anfonwch ebost at PSBA.new.connection.enquiries@bt.com a bydd aelod o’r tîm yn cysylltu â chi.