Tai cymdeithasol

Mae cyrff tai cymdeithasol yn darparu gwasanaethau tai ac yn cefnogi cymunedau ar draws y wlad, gan ddibynnu ar systemau digidol i reoli gwasanaethau tai, cyfathrebu gyda thenantiaid a chydweithio â phartneriaid sector cyhoeddus.

Mae PSBA yn darparu cysylltedd cyflym a diogel sy’n cefnogi cymdeithasau tai ar draws y wlad.

Heriau mwyaf

Cynnal cysylltedd dibynadwy ar draws swyddfeydd tai a safleoedd gwasanaeth

Cefnogi staff yn gweithio ar ddatblygiadau tai a gyda chymunedau

Darparu gwasanaethau digidol ar gyfer tenantiaid

Cydweithredu ag awdurdodau lleol a phartneriaid sector cyhoeddus

Cefnogi cyrff tai

Mae PSBA yn darparu cysylltedd cyflym a diogel sy’n cefnogi cymdeithasau tai ar draws y wlad ac yn hwyluso cysylltu â systemau digidol a chysylltu’n effeithiol â thenantiaid a phartneriaid.

Wrth gysylltu cyrff ar rwydwaith cenedlaethol, byddwn hefyd yn helpu cyrff i gydweithredu â chynghorau eraill a chyrff sector cyhoeddus eraill.

Gwasanaethau cysylltiedig

Gwasanaeth WAN (Wide Area Network)

Rhwydwaith cenedlaethol yn darparu cysylltedd diogel rhwng safleoedd at draws sector cyhoeddus Cymru.

DYSGU MWY

Gwasanaethau crwydro diogel

Cysylltedd dibynadwy yn darparu mynediad diogel i rwydweithiau a systemau ar gyfer staff yn gweithio mewn gwahanol leoliadau.

DYSGU MWY
Big data. Information concept. 3D render

Gwasanaethau diogelwch rhwydwaith

Gwasanaethau diogelwch yn cynnwys muriau gwarchod a hidlo cynnwys yn helpu i ddiogelu rhwydweithiau a data sector cyhoeddus.

DYSGU MWY

Enghreifftiau

Prifysgol Aberystwyth

Y Brifysgol wedi cyflwyno gwasanaeth Wi-Fi cyhoeddus PSBA er mwyn darparu cysylltedd diogel a dibynadwy ar gyfer myfyrwyr, staff ac ymwelwyr. Wrth rannu’r rhwydweithiau cyhoeddus a chorfforaethol, cryfhawyd mesurau diogelwch…

Enghraifft Lawn

Rhaid deud fy mod yn amheus am symud i PSBA yn y lle cyntaf am ei fod yn swnio’n rhy dda i fod yn wir. Roedd y pris yn is na’r cwmni blaenorol, ond byddem yn derbyn cynnydd yn ein lled band a chytundeb lefel gwasanaeth llawer gwell. Nid oedd angen poeni! Profodd yn newid positif iawn. Mae wedi hwyluso tyfu ein technoleg a buddsoddi mewn sectorau eraill.

Dyfrig Roberts
Arbenigwr Seilwaith, Grŵp Cynefin

Goblygiadau ymarferol

Cyrff tai yn cysylltu swyddfeydd a lleoliadau gwasanaeth yn ddiogel drwy rwydwaith dibynadwy.

Reliable connectivity supports collaboration between teams and enables housing providers to develop digital services for tenants and contractors.

Camau nesaf

Cysylltwch â’r tîm i drafod anghenion cysylltedd eich corff. Gallwch hefyd brofi ein gwasanaethau neu ddarllen enghreifftiau o gyrff eraill ar draws y wlad sy’n elwa o’r rhaglen.