Newyddion ein Tîm

Oscar Harris, Dadansoddwr Cynlluniau Atebion Cwsmeriaid

Llongyfarchiadau i Oscar Harris, BT, ar gwblhau ei brentisiaeth peirianneg rhwydwaith ac ennill gradd anrhydedd dosbarth cyntaf ym Mhrifysgol Swydd Stafford.

Roedd rhaid cydbwyso gwaith ar ei radd gyda chyfrifoldebau gwerthu tîm PSBA, gydag Oscar yn dangos dyfalbarhad, chwilfrydedd a phroffesiynoldeb drwy gydol yr amser.

Yn gynharach eleni, treuliodd Oscar amser yn gwirfoddoli yn Nepal, gan gefnogi cymunedau lleol. Dychwelodd I’r tîm ar 21 Gorffennaf ac ers hynny mae wedi bod yn rhannu ei brofiadau gyda’i gydweithwyr.