Mae ysgolion sy’n darparu addysg ôl-16 ar draws y wlad yn gallu elwa o’n gwasanaeth Esports, sy’n rhoi cyfle i fyfyrwyr astudio cymhwyster BTEC Esports wrth gymryd rhan mewn cystadlaethau gemau gydag ysgolion a cholegau eraill.
Darperir y gwasanaeth ar blatfform canolog diogel, er galluogi ysgolion a cholegau i gyflwyno e-sports heb wariant cyfalaf sylweddol ymlaen llaw.
Mae’r rhaglen yn helpu myfyrwyr i ddatblygu sgiliau gwerthfawr yn cynnwys gwaith tîm, cyfathrebu, cynllunio strategol, rheoli digwyddiadau a chreu cynnwys, tra hefyd yn dysgu mwy am ddiwydiannau digidol, gemau a chreadigol, a’r cyfleoedd gwaith byddant yn cynnig.
Yn achos darparwyr addysg ôl-16, mae Esports yn cefnogi amcanion dysgu digidol, yn darparu cyfleoedd dysgu arloesol ac yn helpu i baratoi pobl ifanc ar gyfer y gweithlu technolegol modern.