
Eich swydd a ffocws beunyddiol
Ffocws fy ngwaith yw helpu cyrff sector cyhoeddus ar draws y wlad i elwa cymaint â phosibl o’r rhaglen.
Byddaf yn cydweithio â chwsmeriaid, rhanddeiliaid a phartneriaid er mwyn eu helpu i ddeall blaenoriaethau a chyfleoedd, a sicrhau bod PSBA yn parhau i gefnogi anghenion digidol sector cyhoeddus Cymru.
Bydd pob dydd yn wahanol ond byddaf yn treulio llawer o’r amser yn cysylltu â chyrff iechyd, llywodraeth leol, addysg a gwasanaethau brys, gan adeiladu cysylltiadau cryf a’u helpu i ddefnyddio adnoddau PSBA er lles eu cymunedau.
Beth yw PSBA i chi a’i effaith ar draws sector cyhoeddus Cymru?
I mi, mae PSBA yn un o’r asedau digidol pwysicaf yn cefnogi gwasanaethau cyhoeddus Cymru. Mae’n darparu cysylltedd diogel a dibynadwy sy’n galluogi cyrff i gydweithredu, arloesi a chynnal gwasanaethau hanfodol bob dydd.
Mae’r rhaglen wedi trawsnewid dulliau cysylltu a chydweithredu cyrff sector cyhoeddus, wrth greu rhwydwaith dibynadwy sy’n cefnogi popeth o wasanaethau iechyd ac addysg llinell flaen i awdurdodau lleol a gwasanaethau brys. Wrth weithio yn y cefndir, nid yw maint ei gyfraniad bob amser yn amlwg, ond mae’n chwarae rôl hanfodol wrth helpu cyrff i ddarparu gwasanaethau effeithlon a dibynadwy ar gyfer y wlad gyfan.
Wrth edrych ymlaen, blaenoriaethau allweddol PSBA wrth barhau i gefnogi cyrff sector cyhoeddus ar draws y wlad?
Bydd yn bwysig bod PSBA yn parhau i esblygu ar y cyd ag anghenion sector cyhoeddus Cymru. Bydd blaenoriaethau allweddol yn cynnwys helpu cyrff i addasu i’r byd digidol, cefnogi mabwysiadu gwasanaethau cwmwl, cryfhau mesurau i daclo bygythiadau seiber a sicrhau bod yn rhwydwaith yn parhau’n ddigon hyblyg i gefnogi technolegau a dulliau gweithredu newydd.
Yn ogystal, bydd angen parhau i wrando ar ein cwsmeriaid a’n partneriaid er mwyn cynnal PSBA fel rhaglen gydweithredol sy’n darparu gwerth gwirioneddol am yr arian ac yn helpu cyrff sector cyhoeddus i wynebu cyfleoedd a heriau’r dyfodol.