Cyfarwyddwr Partneriaeth Cleientau
Bydd Richard Anderson yn ymuno â thîm PSBA fel y Cyfarwyddwr Partneriaeth Cleientau newydd, ar ôl treulio’r blynyddoedd diwethaf yn cydweithio’n agos â Llywodraeth Cymru a chyrff sector cyhoeddus fel rheolwr datblygu busnes o fewn tîm sector cyhoeddus de Cymru BT.
Mae ei brofiad wedi darparu sylfaen gadarn wrth ddeall tirwedd sector cyhoeddus Cymru a datblygu cysylltiadau, elfennau mae’n edrych ymlaen at eu datblygu yn ei rôl newydd.
Eich swydd a ffocws beunyddiol
Fy swyddogaeth fel Partner Cleientau yw bd yn gyfrifol am lwyddiant contract PSBA, gan sicrhau ein bod yn darparu gwasanaeth o safon uchel heddiw ac yn llywio dyfodol y rhwydwaith.
Yn feunyddiol, bydd hynny’n golygu cydweithio’n agos â Llywodraeth Cymru a’n cwsmeriaid sector cyhoeddus er mwyn deall eu blaenoriaethau, a sichrau bod BT yn dilyn targedau perfformiad ac yn anelu i drawsnewid y rhwydwaith dros yr hir dymor.
Bydd hynny’n galw am reoli ein timau gweithredu, gwasanaeth, masnachol a datblygu busnes er mwyn canolbwyntio ar flaenoriaethau cyrff PSBA. Ar yr un pryd, byddaf yn canolbwyntio ar gryfhau cysylltiadau gyda’n cydweithwyr yn Llywodraeth Cymru ac yn helpu i lywio PSBA, nid yn unig fel rhwydwaith, ond fel platfform i hwyluso gwasanaethau cyhoeddus gwell ar draws y wlad.
Rôl PSBA yn eich barn chi a’i effaith ar sector cyhoeddus Cymru
I mi, PSBA yw un o’r rhwydweithiau digidol pwysicaf yng Nghymru, wrth helpu i gysylltugwasanaethau cyhoeddus a’u helpu I gydweithio er lles pawb yn Nghymru.
Beth sy’n unigryw yw ein gwasanaeth ar gyfer pob rhan o’r wlad. Mae rhwydwaith PSBA yn cefnogicannoedd o gyrff ar draws meysydd iechyd, llywodraeth leol, gwasanaethau brys ac eraill. Ond, tuhwnt i’r ochr dechnegol, yr effaith fwyaf yw gwella mynediad i ofal iechyd, cefnogi dysgu digidol a galluogi gwasanaethau llinell flaen i weithredu’n fwy effeithiol. Mae PSBA yn chwarae rôl bwysig ymmywydau beunyddiol pobl, yn aml yn y cefndir.
Yn fy nghyfnod cynnar yn y rôl, rwy’n gallu gweld gwerth y cydweithredu rhwng BT a LlywodraethCymru a sut mae’r bartneriaeth wedi helpu PSBA i esblygu dros amser.
Wrth edrych tua’r dyfodol, beth yw prif flaenoriaethau PSBA er mwyn parhau i gefnogi cyrffsector cyhoeddus ar draws y wlad.
Yn gyntaf, parhau i ddarparu gwasanaeth safon uchel a dibynadwy. Dyna’r sylfaen i bopeth a byddrhaid i ni barhau i fod yn bartner dibynadwy i’n cwsmeriaid.
Yn ail, helpu cyrff i elwa o wasanaethau’r rhwydwaith wrth esblygu’r catalog gwasanaeth, boed wrthddarparu gwasanaethau newydd, datblygu’r rhwydwaith craidd neu gefnogi dulliau gweithredunewydd.
Yn drydydd, cryfhau ein cysylltiadau gyda rhanddeiliaid ar draws Llywodraeth Cymru a’r sector cyhoeddus ehangach, gan alinio â’u blaenoriaethau strategol a helpu i wireddu potensial gwasanaethPSBA.
Rwy’n edrych ymlaen at gyflawni’r rôl hon ar adeg mor bwysig i PSBA. Mae’n gyfle gwych i adeiladuar y sylfeini cadarn a ddatblygwyd eisoes ac i gydweithio’n agos â’n cwsmeriaid a phartneriaid er parhau i ddarparu gwerth gwirioneddol mewn gwasanaethau cyhoeddus ar gyfer cymunedau ardraws y wlad.