Susi Marston, Pennaeth Sector Cyhoeddus BT Cymru.
Eich swydd a ffocws beunyddiol
Rwy’n arwain busnes sector cyhoeddus BT ar draws Cymru, sy’n fraint o ddeall rôl ein cwsmeriaid ym mywydau pobl yn feunyddiol. Byddaf yn canolbwyntio ar alinio â’u blaenoriaethau a gwneud hynny’n gyson. O ddydd i ddydd, bydd hynny’n golygu treulio amser gyda’n cwsmeriaid, eu cysylltu â’r timau iawn o fewn BT a sicrhau ein bod yn gwneud y pethau iawn i gefnogi gwasanaethau critigol ar draws y wlad.
Beth yw PSBA i chi a’ch ystyriaeth o’i effaith ar sector cyhoeddus Cymru?
Mae PSBA yn un o’r rhaglenni tawel hynny sy’n cael effaith enfawr wrth gefnogi cymaint o’r pethau sy’n helpu cyrff i weithredu, hyd yn oed os nad yw hynny’n amlwg ar bob amser. Rwy’n gwerthfaworogi’r cysondeb a dbynadwyedd mae’n cynnal ar draws sector cyhoeddus Cymru, gan helpu cyrff i gydweithio’n hwylus â’i gilydd a chefnogi canlyniadau gwell ar gyfer y bobl byddant yn gwasanaethu.
Wrth edrych tua’r dyfodol, beth yw blaenoriaethau PSBA er cefnogi cyrff sector cyhoeddus ar draws y wlad?
Parhau i wrando ac esblygu. Mae anghenion ein cwsmeriaid yn newid, yn nhermau dibynadwyedd, dulliau gweithredu a thrawsnewid digidol. Rhaid i PSBA ymateb i hynny, wrth gynnal cysylltiadau cadarn a chynnal deialog agored er addasu a sicrau bod PSBA yn parhau i gynnig gwerth ychwanegol gwirioneddol wrth ymateb i flaenoriaethau newydd.