Mae rhaglen uwchraddio UPS yn dal i ddatblygu ar draws stad PSBA. Ers ei lansio ym mis Ebrill, uwchraddiwyd dros 90 lleoliad, sef dros 33% o’r holl safleoedd. Mae’r rhaglen yn dilyn yr amserlen, gan wella dibynadwyedd cyflenwadau pŵer a gostwng y risg o ymyrryd â’r gwasanaeth.
Rhagwelir bydd y rhaglen yn dod i ben erbyn diwedd 2027, gyda gwaith uwchraddio rheolaidd yn parhau er gwella dibynadwyedd y gwasanaeth a hydwythedd y rhwydwaith. Byddwn yn parhau i’ch hysbysu wrth i ni gyrraedd cerrig milltir allweddol.