Roedd cylchlythyr y rmis diwethaf wedi datgelu ein cynlluniau i uwchraddio darpariaethau Metro mewn 49 lleoliad allweddol dros y ddwy flynedd nesaf. Rhan o’r gwaith fydd addasu rhai cyfnewidfeydd er gwella effeithiolrwydd ynni, symleiddio’r rhwydwaith a chreu platffrom cynaladwy ar gyfer gwasanaethau’r dyfodol.
Dyddiadau’r cyfnodau atal:
| Cyfnewidfa | Cyfnod atal newidiadau |
|---|---|
| Llanfair ym Muallt (Builth Wells) | 20 Gorffennaf – 28 Awst 2026 |
| Tonyrefail | 3 Awst – 11 Medi 2026|
| Hengoed | 7 Medi – 16 Hydref 2026 |
| Caernarfon | 14 Medi – 24 Hydref 2026 |
Mae cyfnodau atal newidiadau yn gallu para hyd at chwe wythnos, ond fe wneir pob ymdrech i gyfyngu’r cyfnodau hynny. Efallai bydd y dyddiadau uchod yn newid rhywfaint wrth i’r rhaglen fynd yn ei blaen.
Yn ystod cyfnodau atal:
- Ni fyddwn yn darparu gwasanaethau newydd yn y cyfnewidfeydd penodol
- Ni fyddwn yn addasu gwasanaethau cyfredol
- Byddwn yn parhau i brosesu ceisiadau a dderbynnir yn ystod cyfnodau atal ac yn eu paratoi i’w cyflwyno ar ôl y cyfnod atal.
Dylai cwsmeriaid, fydd yn debyg o ddioddef o effeithiau cyfnodau atal, gysylltu â’u CSM (rheolwr gwasanaeth cwsmeriaid) neu BDM (rheolwr datblygu busnes) cyn gynted â phosibl.