21.09.2020

PSBA: Wi-Fi Cyhoeddus ar gyfer Sector Cyhoeddus Cymru

Bydd llawer ohonom yn disgwyl bod wifi cyhoeddus ar gael yn gyffredinol, gyda’r rhan helaeth am ei gael am ddim mewn amryw sefyllfaoedd. Yn achos busnesau, mae darparu wifi ar gyfer gwesteion yn ffordd dda o wella gwasanaethau ar gyfer cwsmeriaid ac yn cynnig cyfleoedd marchnata ychwanegol wrth gysylltu â nhw.

Mae gwasanaeth wifi cyhoeddus PSBA yn darparu mynediad i adnoddau arlein o adeiladau sector cyhoeddus, gan gynnwys mesurau llywodraethu a rheoli cynnwys ar gyfer cyrff unigol. Byddwch yn gallu darparu wifi cyhoeddus yn eich corff wrth ddefnyddio eich cysylltedd PSBA, gyda gwasanaeth arbenigol allanol yn rheoli’r risgiau yn gysylltiedig â chysylltiad rhyngrwyd cyhoeddus.

Mae PSBA wedi ymrwymo i sicrhau bod cyrff sector cyhoeddus yn gallu cael y technolegau a’r cysylltedd iawn er mwyn darparu gwasanaethau effeithlon.

Bydd rhannu’r rhwydweithiau wifi corfforaethol a chyhoeddus yn golygu gallwch reoli pwy sy’n cael mynediad i wybodaeth sensitif, gan ddiogelu manylion busnes ond yn dal i ddarparu cysylltiadau wifi estynedig i’r cyhoedd.

Nodweddion y gwasanaeth

  • Wifi BT ar gyfer staff ac ymwelwyr/cwsmeriaid
  • Pwyntiau mynediad diwifrau Cisco (yn achos gwasanaeth safle ar wahân)
  • Tudalennau glanio penodol
  • Dangosfwrdd dadansoddi amser real
  • Targedu negeseuon at eich ymwelwyr dros wifi
  • Hidlo cynnwys yn diogelu defnyddwyr
  • Desg gymorth 24/7 x 365

How will Public Access Wi-Fi benefit the public sector?

Sut bydd y sector cyhoeddus yn elwa o wifi cyhoeddus?

Increased security

Gwella diogelwch

Wrth gynnig wifi cyhoeddus PSBA bydd gwasanaeth arbenigol allanol yn rheoli’r risgiau yn gysylltiedig â chysylltiad rhyngrwyd cyhoeddus. Bydd PSBA yn diogelu manylion eich busnes ond yn dal i ddarparu cysylltiadau wifi estynedig i’r cyhoedd. Fel rhan o’r gwasanaeth, bydd eich rhwydwaith wifi yn cydymffurfio â Deddf Diogelu Data (1998), Cyfarwyddeb Diogelu Data Cyffredinol EU (GDPR), Rheoliadau Preifatrwydd & Cyfathrebu Electronig (PECR), Deddf Cadw Data & Pwerau Ymchwilio 2014 (DRIPA) a Deddf Economi Digidol 2017.

Cost-effective

Cost effeithiol

Mae PSBA yn cynnig gwasanaethau wifi cyhoeddus am brisiau cystadleuol, gan arbed amser a chostau dilyn arferion caffaelio unigol. Bydd cwsmeriaid yn cael opsiwn o neilltuo rhan o ystod eu gwasanaeth presennol er mwyn cynnig wifi cyhoeddus a chynnal y gwasanaeth dros gysylltiad rhyngrwyd PSBA cyfredol, gan arbed costau.

Customer/visitor satisfaction

Boddhad cwsmeriaid/ymwelwyr

Mae modd cyfeirio cwsmeriaid/ymwelwyr at linciau cwestiynau cyffredin neu systemau bwcio apwyntiadau. A byddant yn gallu defnyddio wifi er darllen ac anfon negeseuon ebost, defnyddio cyfryngau cymdeithasol a phori’r we.

Service management by PSBA

PSBA yn rheoli’r gwasanaeth

Byddwn yn rheoli’r gwasanaeth wrth ddilyn prosesau safonol PSBA, gan ddarparu desg gymorth i drin achosion ac ymholiadau am elfennau technegol y gwasanaeth. Byddwn hefyd yn darparu adnoddau dadansoddi namau, peirianwyr technegol ac adroddiadau er mwyn rhoi cymorth pan fydd angen.

Filtering options

Opsiynau hidlo

Bydd darparu wifi cyhoeddus yn cynyddu’r rhwymedigaethau rheoleiddiol, yn cynnwys hidlo cynnwys anghyfreithlon ac anaddas. Ar eich rhan, byddwn yn dilyn pob mesur cydymffurfio ac yn cadw i fyny â newidiadau deddfwriaethol. Byddwn yn hidlo cynnwys anghyfreithlon wrth ddefnyddio rhestrau IWF (Internet Watch Foundation). Yn ogystal, mae cyrff PSBA yn gallu dewis hidlo ar sail wyth categori opsiynol o gynnwys anaddas.

Branded landing pages

Tudalennau glanio penodol

Byddwn yn darparu opsiynau tudalennau glanio ar gyfer eich ymwelwyr. Bydd y tudalennau yn nodi’r gwasanaethau ychwanegol a ddarperir gan y corff sydd yn darparu’r gwasanaeth wifi cyhoeddus.

Productivity

Cynhyrchiant

Byddwn yn sicrhau bod pawb yn cael mynediad i’r dechnoleg a chysylltedd iawn. Mae PSBA yn cysylltu gwasanaethau cyhoeddus Cymru ac yn eu helpu i gyflawni mwy. Yn ogystal â gwella profiadau cwsmeriaid ac ymwelwyr, mae wifi cyhoeddus yn gallu gyrru cynhyrchiant ac arloesi.

Want to know more?

Am wybod mwy?

Mae taflen wifi cyhoeddus PSBA yn amlinellu’r gwasanaeth. Am fanylion pellach, cysylltwch â psba.pre.sales.team@bt.com

Straeon diweddar

Hysbysiadau testun MI

Rydym yn deall na fyddwch yn gallu darllen negeseuon ebost ar bob amser ond yn gwerthfawrogi gallu eich cyrraedd ar frys pan fydd rhwydwaith PSBA yn destun achos mawr (MI) critigol. Fel rhan o’n strategaeth i gynnal gwelliant parhaus, byddwn yn cyflwyno gwasanaeth i’ch galluogi i dderbyn neges destun pa fydd rhwydwaith PSBA yn destun

Croeso i newyddion PSBA rhif 44

Croeso i newyddion PSBA rhif 44 Nod ein cylchlythyr yw eich hysbysu o raglen PSBA dros y misoedd i ddod a rhannu datblygiadau ar y rhwydwaith. Cofiwch ei anfon ymlaen at unrhyw gydweithwyr a allai fod â diddordeb yn y cynnwys.   Anfon at gydweithiwr Digidol a Data Dros y blynyddoedd diwethaf, mae’r ‘rhyngrwyd pethau’ (Internet

CYSYLLTU

Os oes diddordeb gennych mewn ymuno â PSBA neu am fanylion pellach, anfonwch neges at PSBA.new.connection.enquiries.bt.com a bydd aelod o’r tîm yn cysylltu â chi.