MAE gwasanaethau cyhoeddus hanfodol gan gynnwys meddygfeydd, llyfrgelloedd ac ysbytai yn elwa ar gyflymderau rhyngrwyd a gwell cysylltedd.
PSBANewsMAE gwasanaethau cyhoeddus hanfodol gan gynnwys meddygfeydd, llyfrgelloedd ac ysbytai yn elwa ar gyflymderau rhyngrwyd a gwell cysylltedd.
Nid yw pandemig y Coronafeirws wedi atal cynnydd mawr sy'n cael ei wneud ar yr Adran Ddigidol, Diwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon (DCMS) a Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru £8m o gyflwyno band eang gigabit o'r ansawdd uchaf i 350 o safleoedd ar draws Sir Ddinbych, Ynys Môn, Conwy, Gwynedd, Sir y Fflint a Wrecsam.
Mae'r newid o ddarpariaeth copr - fel rhan o'i Raglen Rhwydwaith Ffibr Llawn Lleol (LFFN) – wedi gweld yr Adran dros Ddiwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon yn gweithio mewn partneriaeth â'r Bwrdd Uchelgais ers i'r cais cychwynnol am gyllid gael ei wneud yn 2018.
Dywedodd y Cynghorydd Mark Pritchard, is-gadeirydd y Bwrdd Uchelgais ac arweinydd cyngor Wrecsam, y bydd y cynllun yn ategu'r rhaglen ddigidol sy'n rhan o Fargen Twf Gogledd Cymru gwerth £1bn.
"Mae'r prosiect hwn yn diogelu cannoedd o safleoedd y sector cyhoeddus yng Ngogledd Cymru yn y dyfodol," meddai'r Cynghorydd Pritchard.
"Bydd ganddynt fynediad at allu a chysylltedd gigabit o'r ansawdd uchaf wrth i'w gofynion gynyddu a thyfu, gyda sefydliadau'n parhau i fabwysiadu technolegau newydd a gwella'r ffordd y caiff gwasanaethau eu darparu.
"Gofal sylfaenol yw un o brif feysydd y prosiect, a bydd meddygfeydd ym mhob sir yn y rhanbarth hwn yn elwa o gysylltedd llawer gwell i gefnogi ffyrdd newydd o gyfathrebu â chleifion ac ysbytai."
Ychwanegodd: "Mae'r Coronafeirws wedi cynyddu'n sylweddol yr angen am well cysylltedd digidol rhwng trigolion a gwasanaethau cyhoeddus, a bydd yr LFFN yn rhoi cynghorau a byrddau iechyd mewn sefyllfa gryfach a mwy amlbwrpas i reoli heriau'r dyfodol.
"Ni fu erioed amser gwell i wneud y gwelliannau hyn ac rwyf wrth fy modd gyda'r cynnydd a wnaed hyd yma."
Mae Meddygfa Cadwgan yn Hen Golwyn yn enghraifft o safle sydd wedi elwa o'r LFFN.
Mae'r uwch bartner Dr Dylan Parry wedi gweithio yn y feddygfa ers dros 20 mlynedd ac yn dweud bod y buddsoddiad wedi trawsnewid eu bywydau bob dydd.
"Mae gennym ni 12,000 o gleifion, felly roedd ceisio gweithio'n ddigidol gyda chymaint o waith yn anodd," meddai Dr Parry.
"Roedd gennym broblemau gyda meddalwedd, profiad pori gwael a phroblemau eraill a wastraffodd amser clinigol a gweinyddol, yn ogystal â lleihau cynhyrchiant ac arwain at rwystredigaethau gyda gweithio o bell.
"Yn dilyn gosod band eang cyflymach, gwelsom welliant enfawr - roedd manteision uniongyrchol."
Safleoedd eraill a gafodd effaith gadarnhaol fel rhan o'r broses gyflwyno oedd Swyddfa Ystâd Parc Caia yn Wrecsam, Tîm y Gwasanaeth Cymorth Iechyd Meddwl ym Mharc Castell y Fflint, ac adeilad Muriau yng Nghonwy, cartref Canolfan Groeso a siop anrhegion a thirnod yn Safle Treftadaeth y Byd ers y 1880au.
Dywedodd y Cynghorydd Emma Leighton-Jones, Aelod Cabinet Moderneiddio Conwy: "Rydym wedi ymrwymo i gyfres o raglenni digidol sydd â'r nod o wella gwasanaethau, yn ogystal ag ymestyn atebion cysylltedd cyflym i ardaloedd lle nad yw ar gael ar hyn o bryd.
"Rydym yn ddiolchgar am gefnogaeth Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru, ac am gefnogaeth Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru yn y rhaglenni hyn."
Mae LFFN yn fenter flaenllaw gan Lywodraeth y DU i ysgogi gweithredwyr rhwydwaith i ymestyn cyrhaeddiad band eang gigabit galluog ledled y wlad.
Llongyfarchodd y Gweinidog dros Seilwaith Digidol yn yr Adran dros Ddiwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon, Matt Warman, yr awdurdodau lleol yng Ngogledd Cymru am gydweithio â phartneriaid i yrru'r cynllun yn ei flaen.
"O Ynys Môn i Wrecsam, mae gweld yr awdurdodau lleol yn cydweithio ar y prosiect hwn yn wych," meddai.
"Bydd hynny yn ei dro yn ysgogi busnesau i fanteisio'n ehangach ac yn gweld y sectorau cyhoeddus a phreifat yn cysylltu mewn ffordd ddiriaethol.
"Mae cynnydd da wedi'i wneud ac mae'n rhoi syniad i ni o sut mae'r dirwedd ddigidol yng Nghymru yn newid, a pha fanteision y gall band eang cyflymach eu cynnig.
"Rydym yn awyddus i fynd ymhellach fyth mewn partneriaeth â Llywodraethau Cymru a'r DU i sicrhau ein bod yn cyflwyno cysylltiadau gigabit ar draws y rhanbarth."
Mae'r gwaith uwchraddio i safleoedd terfynol yn cael ei wneud gan gontract Cydgasglu Band Eang y Sector Cyhoeddus (PSBA) Llywodraeth Cymru gyfan, a ddarperir gan BT. Mae PSBA yn darparu gwasanaethau cysylltedd i bron i 5,000 o safleoedd yn y sector cyhoeddus ledled Cymru.
Dywedodd Lee Waters, Dirprwy Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth: "Rwy'n falch o weld y datblygiad hwn yng Ngogledd Cymru a bod y sector cyhoeddus eisoes yn elwa o'r gwelliannau a wnaed.
"Roedd contract PSBA yn cynnig ateb ar unwaith i Fwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru drwy ddarparu rhwydwaith presennol i'r sector cyhoeddus cyfan yng Nghymru ei ddefnyddio.
"Mae'r seilwaith sy'n cael ei osod yn y prosiect hwn hefyd yn caniatáu i rai cartrefi a busnesau ger adeilad sector cyhoeddus elwa o fand eang ffeibr llawn. Nawr yn fwy nag erioed rydym yn gwerthfawrogi pwysigrwydd cysylltiad band eang cyflym a dibynadwy ac mae'n dda gweld y gwaith hwn ar y gweill yng Ngogledd Cymru."
Ewch i www.llyw.cymru i gael rhagor o wybodaeth am argaeledd band eang cyflym iawn yng Nghymru.
I gael rhagor o wybodaeth am Fwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru, e-bostiwch info@buegogleddcymru.co.uk neu dilynwch @BUEGogleddCymru (Cymraeg) neu @NorthWalesEAB (Saesneg) ar y cyfryngau cymdeithasol.
Rydym yn deall na fyddwch yn gallu darllen negeseuon ebost ar bob amser ond yn gwerthfawrogi gallu eich cyrraedd ar frys pan fydd rhwydwaith PSBA yn destun achos mawr (MI) critigol. Fel rhan o’n strategaeth i gynnal gwelliant parhaus, byddwn yn cyflwyno gwasanaeth i’ch galluogi i dderbyn neges destun pa fydd rhwydwaith PSBA yn destun
Croeso i newyddion PSBA rhif 44 Nod ein cylchlythyr yw eich hysbysu o raglen PSBA dros y misoedd i ddod a rhannu datblygiadau ar y rhwydwaith. Cofiwch ei anfon ymlaen at unrhyw gydweithwyr a allai fod â diddordeb yn y cynnwys. Anfon at gydweithiwr Digidol a Data Dros y blynyddoedd diwethaf, mae’r ‘rhyngrwyd pethau’ (Internet
Os oes diddordeb gennych mewn ymuno â PSBA neu am fanylion pellach, anfonwch neges at PSBA.new.connection.enquiries.bt.com a bydd aelod o’r tîm yn cysylltu â chi.