18.03.2021

PSBA i gynnig SD-WAN

Erbyn hyn mae SD-WAN (software-defined wide area network) yn dod yn opsiwn mwy poblogaidd i rwydweithiau mentrau bach a mawr.

Mae SD-WAN yn dadansoddi a blaenoriaethu traffig sy’n mynd drwy eich rhwydwaith, gan roi golwg clir o bopeth sy’n digwydd er mwyn hwyluso penderfyniadau craff ac ymateb yn gyflymach. Ar ben hynny, mae modd addasu SD-WAN mewn ymateb i ofynion a maint eich corff.

Bydd symud i system sy’n defnyddio adnoddau llwybro craff gyda rheolydd canolog yn darparu nifer o fuddion i ddefnyddwyr SD-WAN, yn cynnwys monitro perfformiad amser real, cysylltedd WAN a llwybrau traffig hyblyg, ac amgryptio traffig rhwydwaith.

Os oes diddordeb gennych mewn cael pecyn SD-WAN, hoffai PSBA ddeall eich anghenion technoleg a busnes er mwyn helpu i ddiffinio gwasanaeth addas at y pwrpas.

Diddordeb? Cofrestrwch ar gyfer un o’n gweithdai SD-WAN, wedi’u dyfeisio ar gyfer penaethiaid a thimau technoleg gwybodaeth. Bydd cyfle i fod yn rhan o’r broses, rhannu eich blaenoriaethau a darparu ymateb.

Er mwyn symbylu cydweithredu, byddwn yn cynnal dau weithdy ar Teams:

DyddiadAmser
Iau 22 Ebrill09.30 -10.45
Iau 29 Ebrill09.30 -10.45

Cofion,

Tîm PSBA

Straeon diweddar

Hysbysiadau testun MI

Rydym yn deall na fyddwch yn gallu darllen negeseuon ebost ar bob amser ond yn gwerthfawrogi gallu eich cyrraedd ar frys pan fydd rhwydwaith PSBA yn destun achos mawr (MI) critigol. Fel rhan o’n strategaeth i gynnal gwelliant parhaus, byddwn yn cyflwyno gwasanaeth i’ch galluogi i dderbyn neges destun pa fydd rhwydwaith PSBA yn destun

Croeso i newyddion PSBA rhif 44

Croeso i newyddion PSBA rhif 44 Nod ein cylchlythyr yw eich hysbysu o raglen PSBA dros y misoedd i ddod a rhannu datblygiadau ar y rhwydwaith. Cofiwch ei anfon ymlaen at unrhyw gydweithwyr a allai fod â diddordeb yn y cynnwys.   Anfon at gydweithiwr Digidol a Data Dros y blynyddoedd diwethaf, mae’r ‘rhyngrwyd pethau’ (Internet

CYSYLLTU

Os oes diddordeb gennych mewn ymuno â PSBA neu am fanylion pellach, anfonwch neges at PSBA.new.connection.enquiries.bt.com a bydd aelod o’r tîm yn cysylltu â chi.