29.04.2022

Croeso i newyddion PSBA rhif 44

Croeso i newyddion PSBA rhif 44

Nod ein cylchlythyr yw eich hysbysu o raglen PSBA dros y misoedd i ddod a rhannu datblygiadau ar y rhwydwaith. Cofiwch ei anfon ymlaen at unrhyw gydweithwyr a allai fod â diddordeb yn y cynnwys.  

Anfon at gydweithiwr Anfon at gydweithiwr

Digidol a Data

Dros y blynyddoedd diwethaf, mae’r ‘rhyngrwyd pethau’ (Internet of Things/IoT) wedi dod yn gymal cyffredin. Erbyn hyn, mae’n debyg byddwch yn cysylltu â IoT yn rheolaidd, oherwydd mae llawer o beiriannau cartrefi, bylbiau craff a dyfeisiadau olrhain ffitrwydd yn rhan ohono. Mae dyfeisiadau IoT yn cynnwys synhwyryddion bach sy’n gallu anfon gwybodaeth at ddyfeisiadau a systemau eraill dros y rhyngrwyd, gan helpu i hwyluso ein bywydau wrth wneud hynny. Mwy

Gwaith Cynlluniedig yn Atal Gwasanaeth PSBA

Dylai cwsmeriaid sydd wedi cynllunio gwaith cynnal a chadw a allai arwain at golli cysylltedd PSBA ar un neu fwy o’u safleoedd gysyltu â desg gwasanaeth PSBA o leiaf 48 awr cyn dechrau’r gwaith. Bydd hynny’n osgoi dechrau’r broses rheoli achosion yn ddiangen.

Mae’n cynnwys gweithgareddau gan gyrff PSBA a allai effeithio cysylltiadau eich corff chi ac eraill o’u cynnal ar safle sy’n cynnwys seilwaith craidd PSBA. Bryd hynny, bydd angen llenwi Customer Outage Notifications PSBA template (Hysbysiad Torri Gwasanaeth) a’i anfon at psba.changes@bt.com a psbasupport@bt.com er mwyn ei gynnwys ar restr waith ddyddiol desg gwasanaeth PSBA. Dylai’r ebost hefyd gynnwys enwau’r safleoedd a’r cyfeirnodau PSBA perthnasol, a’r dyddiadau ac amserau dechrau a gorffen gwaith, ynghyd â’r cyfnod atal gwasanaeth a ragwelir. Mwy

Llofnodi Cytundeb Newydd

Erbyn hyn rydym wedi dechrau trosi i UK SSP (UK Shared Services Platform) ac yn barod i gyflwyno newidiadau ar MyAccount.

Y rhannau o MyAccount fydd yn destun newidiadau yw’r ardaloedd rheoli a hysbysu achosion. Bydd rhaid i gyrff PSBA arwyddo a dychwelyd cytundeb diwygiedig er mwyn defnyddio’r ardaloedd hynny. Cysylltwch â’r rheolwr gwasanaethau cleientau (CSM) os bydd angen copi arall o’r cytundeb. Mwy

Perfformiad y Rhwydwaith

Yn ystod mis Mawrth, roedd 98.54% o rwydwaith craidd PSBA (o’r cylch SuperCore i’r cyfnewidfeydd cysylltiedig) yn perfformio o dan 60% o’r cynhwysedd.

Roedd 98.37% o’r 4,231 safle oedd yn destun monitro wedi cyrraedd SLA argaeledd eu dosbarth gwasanaeth ym mis Mawrth.

Mae’r graff yn crynhoi argaeledd dros y flwyddyn ddiwethaf, gan ddangos cynnydd yn nifer y safleoedd yn cyrraedd yr SLA allweddol hwn, gan ganiatáu rhywfaint o amrywiaeth tymhorol. Mwy

Sut mae PSBA yn trawsnewid eich busnes?

Byddwn yn falch o glywed gennych am y gwahaniaeth mae PSBA yn gwneud i’ch gwaith. Gyda’ch caniatâd, efallai byddwn am rannu eich stori ar ein gwefan neu
yn ein deunyddiau marchnata er ysbrydoli eraill. Cysylltwch â ni er mwyn rhannu
eich profiadau!

Straeon diweddar

Hysbysiadau testun MI

Rydym yn deall na fyddwch yn gallu darllen negeseuon ebost ar bob amser ond yn gwerthfawrogi gallu eich cyrraedd ar frys pan fydd rhwydwaith PSBA yn destun achos mawr (MI) critigol. Fel rhan o’n strategaeth i gynnal gwelliant parhaus, byddwn yn cyflwyno gwasanaeth i’ch galluogi i dderbyn neges destun pa fydd rhwydwaith PSBA yn destun

PSBA i gynnig SD-WAN

Erbyn hyn mae SD-WAN (software-defined wide area network) yn dod yn opsiwn mwy poblogaidd i rwydweithiau mentrau bach a mawr. Mae SD-WAN yn dadansoddi a blaenoriaethu traffig sy’n mynd drwy eich rhwydwaith, gan roi golwg clir o bopeth sy’n digwydd er mwyn hwyluso penderfyniadau craff ac ymateb yn gyflymach. Ar ben hynny, mae modd addasu

CYSYLLTU

Os oes diddordeb gennych mewn ymuno â PSBA neu am fanylion pellach, anfonwch neges at PSBA.new.connection.enquiries.bt.com a bydd aelod o’r tîm yn cysylltu â chi.