CYDYMFFURFIAD DIOGELWCH

Mae cyrff yn gweithredu o fewn amgylchedd byd-eang cymhleth, sy’n golygu eu bod yn destun llwyth o gyfrifoldebau cydymffurfio cyfreithiol, rheoleiddiol a diogelwch. Mae gan ymgynghorwyr profiadol PSBA yr wybodaeth ac arbenigedd i helpu timau mewnol cyrff i sefydlu a chynnal rhaglenni cydymffurfio, ynghyd â rheoli gofynion cydymffurfio parhaus.

Bydd ein gwasanaeth cydymffurfio’n cefnogi eich llwybr seiber, os byddwch am geisio sefydlu fframwaith diogelwch newydd neu angen cadarnhad bod eich mesurau diogelwch yn gweithio’n effeithiol.

ASESU A RHEOLI RISGIAU

Mae rheoli risgiau’n elfen allweddol o unrhyw raglen diogelwch seiber ac yn sicrhau bod cyrff yn datblygu dealltwriaeth glir o asedau allweddol a mesurau i’w diogelu.

Bydd cyrff cyfrifol yn mabwysiadu strategaethau sy’n cynnwys prosesau i asesu bygythiadau seiber yn barhaus, ynghyd â’u heffaith ar amcanion a gofynion diogelwch.

Bydd dealltwriaeth fanwl o gorff ein cleient yn cefnogi pob asesiad risg gan PSBA, gan ystyried eich anghenion a gofynion cyn cymhwyso ein gwybodaeth estynedig a thrylwyr o fygythiadau seiber cyffredin a mesurau diogelwch addas.

CYSYLLTU

Os oes diddordeb gennych mewn ymuno â PSBA neu am fanylion pellach, anfonwch neges at PSBA.new.connection.enquiries.bt.com a bydd aelod o’r tîm yn cysylltu â chi.