DEALL AEDDFEDRWYDD DIGIDOL

Mae cyrff ar draws y wlad ar daith seiber. Gall y daith ddechrau wrth gyflwyno prosesau a gweithdrefnau digidol sylfaenol ac esblygu i ddatblygu fframweithiau a rhwydweithiau soffistigedig, gydag oblygiadau i effeithlonrwydd a diogelwch.

Erbyn hyn mae PSBA wedi datblygu model asesu cadarn y gellir defnyddio gyda chyrff o bob math a maint. Os am gefnogi cyrff gyda’r adnoddau ac arbenigedd angenrheidiol, mae’n bwysig deall sut maent yn gweithio a ble maent wedi cyrraedd ar y daith seiber.

Rhaid deall natur eich corff a’i gynlluniau ar gyfer y dyfodol os am gynghori sut i ddiogelu eich data.

Bydd ein hargymhellion strategol nid yn unig yn eich helpu i ddatblygu strategaeth diogelwch seiber ond hefyd yn helpu i gynllunio llwybr digidol ehangach.

DATGELU ASEDAU GWYBODAETH

Mae datgelu asedau gwybodaeth (Information Asset Discovery – IAD) yn broses systematig sy’n gallu helpu corff i ddeall pa wybodaeth sy’n ganolog i gynnal ei wasanaethau a hysbysu penderfyniadau pwysig am anghenion diogelwch seiber.

Dyfeisiwyd proses IAD er mwyn catalogio’r holl wybodaeth ym meddiant corff a nodi’r elfennau pwysicaf. Un o amcanion allweddol y broses yw diogelu gwybodaeth a data critigol rhag ymosodiadau seiber o bob math.

Mae project IAD o dan reolaeth PSBA hyd yn oed yn gallu datgelu gwybodaeth na fydd aelodau allweddol o’r tîm mewnol yn ymwybodol ohono ac felly’n gallu hysbysu datblygiad a rheolaeth o’r strategaeth diogelwch seiber.

DATGELU ASEDAU MATEROL

Wrth drafod mathau gwybodaeth a data penodol, bydd yn bwysig deall sut mae asedau materol cyrff yn effeithio eu gallu i gadw gwybodaeth yn ddiogel.

Dyfeisiwyd proses PAD (Physical Asset Discovery) PSBA er mwyn catalogio caledwedd digidol, yn cynnwys gliniaduron a ffonau symudol a ddarperir gan y corff, a gliniaduron a ffonau personol sy’n cysylltu â’r rhwydwaith.

Bydd gwella dealltwriaeth eich corff o’r asedau materol a sut maent yn rhyngweithio â’r rhwydwaith digidol yn hanfodol os am gadw eich rhwydwaith yn saff ac wrth ddatblygu a rheoli eich diogelwch seiber.

CYSYLLTU

Os oes diddordeb gennych mewn ymuno â PSBA neu am fanylion pellach, anfonwch neges at PSBA.new.connection.enquiries.bt.com a bydd aelod o’r tîm yn cysylltu â chi.