Ymgynghoriaeth offer diogelwch

Gyda rhwydweithiau arlein yn dod yn fwy soffistigedig, yn eu tro mae’r heriau diogelwch wedi dod yn fwy cymhleth. Mae’r diwydiant wedi ymateb wrth ddatblygu portffolio o arfau rheoli a diogelwch rhwydwaith er helpu cyrff i ddiogelu asedau a rhwydweithiau. Mae gan ymgynghorwyr PSBA brofiad estynedig o ddewis yr offer diogelwch gorau er diogelu eu rhwydweithiau rhag traffig rhyngrwyd digroeso neu niweidiol.

Byddwn hefyd yn helpu cyrff i gynllunio a defnyddio cynnyrch o amrediad eang o gwmnïau, yn cynnwys Cisco, Meraki, Fortinet a Microsoft.

SENARIOS PROFION DIOGELWCH

Yn aml bydd yn anodd i gyrff asesu cryfder eu systemau diogelwch tan iddynt wynebu ymosodiad go iawn. Mae gan PSBA brofiad ac arbenigedd mewn datblygu a chynnal senarios profion diogelwch er helpu cleientau i ddeall effeithiolrwydd eu rhwydweithiau diogelwch a nodi potensial wendidau o fewn yr amgylchedd.

Cynnal senarios profion amser real – gan ddefnyddio tactegau megis gemau rhyfel, timau coch a hacio moesegol – yn gallu nodi pwyntiau gwan o fewn eich rhwydwaith a chynnig syniadau o ran sut i wella’r gwahanol elfennau.

CYSYLLTU

Os oes diddordeb gennych mewn ymuno â PSBA neu am fanylion pellach, anfonwch neges at PSBA.new.connection.enquiries.bt.com a bydd aelod o’r tîm yn cysylltu â chi.