
Strategaeth
Gweithio gyda chyrff sector cyhoeddus er mwyn deall eu gwaith yn drylwyr cyn creu strategaeth diogelwch seiber cadarn er diogelu gwybodaeth ac asedau.
DATBLYGU STRATEGAETH DIOGELWCH SEIBER
Erbyn hyn mae cyrff yn gallu elwa o gynnal strategaethau diogelwch seiber cadarn, gan wneud popeth posibl i ddiogelu gwybodaeth ac asedau, boed yr ymosodiadau ar ffurf heintiadau firws neu faleiswedd syml, neu ymosodiadau seiber cymhleth.
Os byddwch yn ceisio datblygu strategaeth diogelwch seiber newydd neu wella’r un bresennol, gall PSBA gynnal adolygiad strategaeth diogelwch amser real (Security Strategy Review – SSR) er mwyn darparu amlinelliad a meincnod er datblygu strategaeth ddiogelwch estynedig.
Llunio Llwybr Diogelwch Seiber
Arf defnyddiol arall wrth ddatblygu a chynnal strategaeth diogelwch seiber yw ‘llwybr’ technegol sy’n nodi’r technolegau penodol bydd angen er datblygu strategaeth corff ar gyfer y dyfodol.
Bydd y ‘llwybr’ yn defnyddio gwybodaeth a grynhowyd gan y broses SSR, gan asesu pa dechnoleg sydd eisoes ar gael ac os yw’n cael ei defnyddio’n effeithiol – gan helpu i sicrhau eich bod yn gwneud defnydd da o’ch technolegau. Gall hefyd bennu blaenoriaethau ar gyfer y dyfodol, boed hynny’n golygu addasu’r systemau cyfredol neu nodi technolegau newydd er diogelu’r rhwydwaith.