Heddlu Dyfed-Powys sy’n gyfrifol am y rhanbarth sy’n cynnwys Sir Gâr, Ceredigion, Sir Benfro & Powys, yr ardal heddlu fwyaf yng Nghymru a Lloegr, a’r drydedd fwyaf yn y Deyrnas Unedig. Mae Heddlu Dyfed-Powys wedi defnyddio gwasanaethau rhwydwaith PSBA am ddegawd, gan gynnal cysylltiadau cost effeithiol â chymunedau ac ardaloedd nad yw gwasanaethau eraill yn gallu cyrraedd. Manylion yr enghraifft.
Nid yw pandemig y Coronafeirws wedi atal cynnydd mawr sy’n cael ei wneud ar yr Adran Ddigidol, Diwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon (DCMS) a Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru £8m o gyflwyno band eang gigabit o’r ansawdd uchaf i 350 o safleoedd ar draws Sir Ddinbych, Ynys Môn, Conwy, Gwynedd, Sir y Fflint a Wrecsam.
Bydd llawer ohonom yn disgwyl bod wifi cyhoeddus ar gael yn gyffredinol, gyda’r rhan helaeth am ei gael am ddim mewn amryw sefyllfaoedd. Yn achos busnesau, mae darparu wifi ar gyfer gwesteion yn ffordd dda o wella gwasanaethau ar gyfer cwsmeriaid ac yn cynnig cyfleoedd marchnata ychwanegol wrth gysylltu â nhw. Mae gwasanaeth wifi cyhoeddus
Os oes diddordeb gennych mewn ymuno â PSBA neu am fanylion pellach, anfonwch neges at PSBA.new.connection.enquiries.bt.com a bydd aelod o’r tîm yn cysylltu â chi.