PSBANewsPSBA HomeWorker: gweithio gartref yn effeithiol
Ers mis Mawrth 2020, mae cyrff wedi wynebu newidiadau mawr wrth i nifer sylweddol o’u gweithwyr weithio gartref oherwydd pandemig COVID-19. Erbyn hyn, mae cyrff sector cyhoeddus angen cefnogi eu gweithwyr gyda chysylltiadau dibynadwy er hwyluso gweithio gartref rheolaidd neu barhaus.
Mae PSBA yma i gefnogi eich corff gyda PSBA HomeWorker, fydd yn eich helpu i addasu yn awr ac yn y dyfodol.
Adjusting to the new normal
Addasu i’r normal newydd
Rydych wedi gorfod addasu eich dulliau gwaith mewn cyfnod byr iawn, felly byddwch yn ymwybodol o’r angen i fod yn hyblyg ond ar yr un pryd am ystyried sut bydd eich gweithwyr yn gallu gweithredu, rhyngweithio a chysylltu o bell.
Nid yw gweithio gartref yn syniad newydd, ond mae llawer ohonom yn ei brofi am y tro cyntaf. Mae technolegau effeithiol yn gallu gwella profiadau pobl sy’n gweithio gartref, gan eu gwneud i deimlo’n rhan bwysig o’r corff cyfan; er enghraifft, fideo gynadledda yn hwyluso cysylltu a sgwrsio cymdeithasol.
Rydym yn gweld newid ar draws y byd i weithio digidol rhithwir o bell - ac o’i wneud yn dda, gall fod yn ddull gweithio gwerthfawr a chynhyrchiol iawn.
Mae PSBA HomeWorker yn cynnig ateb cynhwysfawr i helpu staff allweddol i addasu i ddulliau gwaith newydd, gyda chysylltedd WAN penodol, offer adeiladau cwsmeriaid (CPE), cysylltiad diwifrau ac SLA safon busnes.
What are the key benefits of PSBA HomeWorker?
Nodweddion allweddol PSBA HomeWorker?
Employee productivity
Cynhyrchiant gweithwyr
Gweithio gartref effeithiol yn hwyluso gweithio hyblyg gyda llai o bethau i dynnu’r sylw, gan wella canolbwyntio a chydweithio.
Secure network
Rhwydwaith diogel
Cysylltedd diogel, cyson a dibynadwy ar gyfer eich corff. Pecyn yn cynnig gwasanaeth diogel ac amgylchedd gweithio cadarn ar gyfer gweithwyr yn eu cartrefi.
Peace of mind
Tawelwch meddwl
Pecyn yn cynnig cytundeb lefel gwasanaeth safon busnes.
Cost-effective
Cost effeithiol
Amrediad o becynnau cost effeithiol wedi’u haddasu er diwallu anghenion eich busnes. Bydd hefyd yn galluogi eich busnes i ostwng costau gweithredu wrth gael mwy o weithwyr i weithio gartref.
Environmental benefits
Buddion amgylcheddol
Gyda llai o bobl yn teithio i waith bob dydd, bydd allyriadau nwyon tŷ gwydr yn gostwng yn sylweddol. Ac wrth ddefnyddio adnoddau digidol i anfon negeseuon a chydweithredu, bydd gweithio gartref yn isafu gwastraff o adnoddau fel papur.
Want to know more?
Am wybod mwy?
Manylion pellach yn nhaflen HomeWorker . Os am drafod y gwasanaeth yn fwy manwl, cysylltwch â psba.pre.sales.team@bt.com
Rydym yn deall na fyddwch yn gallu darllen negeseuon ebost ar bob amser ond yn gwerthfawrogi gallu eich cyrraedd ar frys pan fydd rhwydwaith PSBA yn destun achos mawr (MI) critigol. Fel rhan o’n strategaeth i gynnal gwelliant parhaus, byddwn yn cyflwyno gwasanaeth i’ch galluogi i dderbyn neges destun pa fydd rhwydwaith PSBA yn destun
Croeso i newyddion PSBA rhif 44 Nod ein cylchlythyr yw eich hysbysu o raglen PSBA dros y misoedd i ddod a rhannu datblygiadau ar y rhwydwaith. Cofiwch ei anfon ymlaen at unrhyw gydweithwyr a allai fod â diddordeb yn y cynnwys. Anfon at gydweithiwr Digidol a Data Dros y blynyddoedd diwethaf, mae’r ‘rhyngrwyd pethau’ (Internet
Os oes diddordeb gennych mewn ymuno â PSBA neu am fanylion pellach, anfonwch neges at PSBA.new.connection.enquiries.bt.com a bydd aelod o’r tîm yn cysylltu â chi.