BETH YW ‘PEERING’?

Proses ble bydd dau rwydwaith rhyngrwyd yn cysylltu ac yn cyfnewid traffig, gan hwyluso trosglwyddo traffig yn uniongyrchol. Mae’n broses wahanol i ‘transit’, y dull cyffredin o gysylltu â’r rhyngrwyd.

BUDDION YR OPSIWN?

Mae’n gallu cadw traffig yn lleol a gwella perfformiad, gan wella rheolaeth dros lwybrau allanol ac yn gallu addasu llwybro er osgoi rhannau diffygiol o’r rhwydwaith. Yn ogystal, mae’n gallu bod yn ateb mwy cost effeithiol. 

POLISI

Mae PSBA yn rhan o Cardiff Internet Exchange (Linx Wales) o dan reolaeth LINX gyda chysylltiad 1Gbps i switsh IX. Ar hyn o bryd mae Llywodraeth Cymru yn cynnal polisi ‘peering’ dewisol, ond mae’n rhagweld symud at bolisi agored yn y dyfodol agos (gwanwyn 2019). Ein nod yw derbyn ceisiadau ‘peering’ gan bob rhwydwaith, yn amodol ar gymeradwyaeth o’r mesurau diogelwch a’n cytundeb ‘peering’ safonol.

BETH AM ‘PEERING’ PREIFAT?

Os ydych o’r farn bod y traffig rhwng eich rhwydwaith a PSBA yn debyg o fynd dros ystod ein cysylltiad ‘peering’ 1Gbps yn Linx Wales, byddwn yn hapus i drafod y posibilrwydd o drefnu cysylltiadau uniongyrchol ar bwyntiau addas.

PWYNTIAU CYSWLLT CYHOEDDUS PSBA

CYSWLLT CYHOEDDUS 1PSBA LLYWODRAETH CYMRU
Lleoliad Linx Wales
BT Stadium House
5 Stryd y Parc
Caerdydd
CF10 1NT
Rhif ASAS202519
Cyfeiriad IPv4 BGP Peer195.66.228.8
Cyfeiriad IPv6 BGP Peer2001:7f8:4:4::3:1717:1
Cysylltiad1 Gbit/s

HOCAIS ‘PEERING’ GYDA PSBA?

Pob cais ar ebost at Chris.Price@gov.wales

CYSYLLTU

Os oes diddordeb gennych mewn ymuno â PSBA neu am fanylion pellach, anfonwch neges at PSBA.new.connection.enquiries.bt.com a bydd aelod o’r tîm yn cysylltu â chi.