SIP (Session Initiation Protocol)
Bydd PSBA SIP yn galluogi pob cwsmer i gyfeirio galwadau dros rwydwaith PSBA. Cynlluniwyd mewn ymateb i anghenion cynghorau, byrddau iechyd, gwasanaethau brys a chyrff cyhoeddus eraill y wlad.
Opsiwn cost effeithiol newydd i gymryd lle rhwydweithiau llais traddodiadol – bydd ein gwasanaeth SIP yn helpu cyrff sector cyhoeddus Cymru i wella dulliau cyfathrebu, gostwng costau gweithredu a chefnogi dulliau gweithio mwy hyblyg.
NODWEDDION Gwasanaeth PSBA SIP
- Gwasanaeth llais IP yn defnyddio cysylltiadau a sianeli SIP.
- Cysylltu â PBX SIP.
- Defnyddio eich caledwedd cyfredol, gan osgoi adnewyddu system gyfan.
- Prisiau o £3.50 per sianel – gan hwyluso rheoli cyllidebau cyhoeddus.
- Prisiau galwadau cenedlaethol a lleol cystadleuol.
- Dim angen cylchedau ychwanegol na ffioedd i gysylltu â safleoedd PSBA.
- Cyfuno llais a data ar un rhwydwaith cadarn, diogel.
Nodweddion Gwasanaeth PSBA SIP
Bydd PSBA SIP yn helpu i atgyfnerthu a symleiddio rheoli seilwaith – gan gefnogi gweithio hybrid a chydweithredu rhwng timau a safleoedd. Bydd hefyd yn lleihau’r galw am systemau gwahanol, gan ryddhau amser ac adnoddau i ganolbwyntio ar ddarparu gwasanaethau.
Bydd pob cysylltiad IP yn cynnwys nifer benodol o sianeli (yn cludo 1 galwad yr un), gan gronni cysylltiadau er mwyn rhannu cynhwysedd rhwng nodweddion allweddol, megis canolfannau cyswllt neu rifau penodol adrannau.
Pam dewis PSBA SIP?

Gostwng costau a rheoli
gwariant yn well

Dyfeisiwyd er mwyn cefnogi
gweithredu hyblyg a hybrid

Mudo syml o hen
systemau ffôn

Darperir ar seilwaith llais
cenedlaethol dibynadwy BT
Ystyr rhai termau cyffredin:
• Sianel SIP (channel) – Cynhwysedd i gludo 1 galwad ffôn.
• Cysylltiad SIP (trunk) – Cysylltiad gyda nifer o sianeli penodol.
• Grŵp cysylltiadau SIP (trunk group) – Grŵp yn cynnwys sawl cysylltiad,
gan hwyluso rhannu cynhwysedd llais – ee rhwng canolfannau cyswllt a’r timau mewnol.
Ansicr o’r anghenion? Bydd ein tîm yn gallu helpu.